Tudalen 1 o 1

another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 7:21 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
'sgin rywun ddywediad am 'another one bites the dust' plis? diolch yn fowr.

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 8:46 am
gan sian
Swn i'n tueddu i ddweud "A dyna ddiwedd ar hwnna" wrth siarad yn naturiol - ond dydi hynny ddim yn gyffrous iawn.

Dibynnu ar y cyd-destun:
A dyna un arall yn mynd i Dre-din ?

Oes posib chware â "llyfu'r llwch/llawr" os wyt ti eisiau rhwybeth mwy llythrennol?

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 9:05 am
gan Hogyn o Rachub
Mae hi ar ben/wedi canu ar hwnnw/honno/hynny ?

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 9:17 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
fatha ryw 'o wel, another one bites the dust' 'lly! dio'm ots, dwi 'di gweithio rowndo fo beth bynnag. diolch am eich help beth bynnag!

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 10:39 am
gan Ray Diota
wel y FFACIN MOCHYN!! 'na'i FFACIN DIWEDD HI!!!

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 12:17 pm
gan Hazel
Yn "Geiriadur Idiomau", mae Alun Rhys Cownie'n dweud "to bite the dust" yw "llyfu'r llawr/llwch.

Wps! Dyna hi, Sian. :)

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 3:05 pm
gan Josgin
Beth mae Wil Bryan yn dweud dudwch 'un arall wedi mynd i'w aped ' , neu rhywbeth.

Un arall wedi mynd i ebergofiant .

Cynnig S4C : ' Un arall yn brathu'r llwch '

Cynnig Glyn Wise a cyflwynwyr radio Cymru ' Un arall yn baitio'r dyst '

Re: another one bites the dust

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 3:42 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Josgin a ddywedodd: ' Un arall yn baitio'r dyst '

nais wan. honna 'di! :?