cwpan mewn dwr

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

cwpan mewn dwr

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 17 Gor 2009 2:41 pm

helo. myfi eto. ydi hwn yn ddywediad gogleddol yn unig plis? os ydi o, s'gin rywun syniad be fasa fersiwn yr hwntw os gwelwch? mawr fyddai fy niolch x
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Kez » Gwe 17 Gor 2009 4:35 pm

Be ma 'cwpan mewn dwr' yn ei feddwl?!

Odi fe'n golygu'r un peth a 'water off a ducks back'. Os felly, bysa amall i hwntw yn gweud 'dwr off cefan wiad' ond fi'n siwr nag yw hwnna'n gwd Welsh ac ma gwetiada gwell i gal.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 17 Gor 2009 8:36 pm

na'di, mae o'n golygu rhywun sy'n newid 'i feddwl bob munud. deud un peth un munud, a wedyn deud neu neud y peth cwbwl groes i hynny. gwrth-ddeud 'i hun, mewn ffor'.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Kez » Gwe 17 Gor 2009 9:36 pm

'swn i'n galw rhywun fel 'ny yn wit wat

'Cwpan mewn dwr' - myn yffach i; rych chi fois y Gogledd yn gweud pethach really sili weithiau :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Ray Diota » Sad 18 Gor 2009 3:17 am

Kez a ddywedodd:'swn i'n galw rhywun fel 'ny yn wit wat

'Cwpan mewn dwr' - myn yffach i; rych chi fois y Gogledd yn gweud pethach really sili weithiau :winc:


gwboi kez, ti'n iawn 'fyd... chwit chwat fydden i'n gweud

cwpan mewn ffycin dwr???
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 18 Gor 2009 12:09 pm

Ie, 'Whit What' sy'n cael ei ddefnyddio rownd ffor' hyn am rywun sy'n newid meddwl yn aml, ond hefyd person sy'n anghofio pethau trwy'r amser, neu berson anhrefnus. Ydy rhain hefyd yn meddwl rhywbeth tebyg - anwadal, gwamal, oriog ?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Kez » Sad 18 Gor 2009 2:48 pm

Paid a bod yn dwp Hedd :rolio:

Ma 'gwamal' yn anifail a dou lwmp ar ei gefan sy'n byw yn y Sahara ac onid yw 'oriog' yn air posh am y watsh ti'n gwishgo ar dy law - ne odw i'n drysu :?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Mr Gasyth » Sad 18 Gor 2009 3:34 pm

swn i'n deud chwit chwat am rywyn bler nad oes trefn arni, nid am rywyn sy'n newid ei meddwl o hyd.

chwythu efo'r gwynt faswn i'n deud am rywyn sy'n newid eu meddwl o hyd
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Kez » Sad 18 Gor 2009 4:52 pm

Rych chi fois y Gogledd yn cymysgu metaffors.

Os ti'n 'chwythu efo'r gwynt' - rhaid bo ti'n dilyn y farn gyffredin, ac o ran 'cwpan mewn dwr' - ma hwnna jwst yn sili. Os ti'n twlu cwpan mwn basnid o ddwr, ma'n boban rownd am ryw chydig ond wetyn ma'n llanw lan a chwmpo tsha'r gwaelod a stim symud arno wedyn.

Ma wit wat yn air da ac er bo fi ddim yn gwpod ei hanas - swn i'n meddwl bo wit wat yn onomatapeig am swn y wiad pan fo'n ffwcan rownd yn y dwr. Un funud ma'n mynd ochor hyn ac wedyn y nall - ac os nag yw hwnnw'n meddwl bo rwyn yn newid meddwl, wn i'm beth sydd :?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: cwpan mewn dwr

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Sad 18 Gor 2009 5:22 pm

dwi efo gasyth ar hon. ma' chwit chwat yn golygu rhywun bler - pen yn y gwynt. ac ma' cwpan mewn dwr yn bobian o gwmpas am hydoedd yn y gogledd, washi, wedyn dwi'n meddwl bod o'n fetaffor bach clyfar iawn 'yn hun! :winc:
ond, wedi deud hynny, isho gwbod be' ma' weirdos ochr arall i machynllath yn ddeud o'n i... felly ella mai whit blydi what sy'n ennill y dydd wedi'r cwbwl... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai