siarad babi

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

siarad babi

Postiogan asuka » Maw 21 Gor 2009 3:17 pm

a finne di dysgu'r iaith yn oedolyn a heb dreulio fawr o amser gyda phlant a'u rhieni yng nghymru, bydde da fi gryn ddiddordeb mewn dysgu ffordd fyddwch chi sy'n rhieni yn siarad gyda'ch plant!
sut mae siarad babi yn y gymraeg?
siarad yn ara teg i ddechre, sbo - ond beth arall? be chi'n dala eich hunain yn or-wneud? ynganu geiriau a synau fydde fel arall yn mynd ar goll, er enghraifft?:
"beth wyt ti'n neud, cariad?" yn lle "be ti'n neud, cariad?" :seiclops:
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: siarad babi

Postiogan sian » Maw 21 Gor 2009 3:32 pm

Wnaethon ni ddim siarad babi lot â'n plant ni - ond dwi'n tueddu i wneud â'r ci!

Mae rhai rhieni'n cyfeirio atyn nhw'u hunain a'r plentyn yn y trydydd person gan ddweud "Ma mam yn mynd i'r siop nawr" / "Mae Huw'n hogyn drwg heddiw". Wedyn mae'r plentyn yn dechrau cyfeirio ato'i hunan wrth ei enw. Swnio braidd yn ddibwynt i fi!

Gallu bod yn embarasing. Cofio rhywun yn dangos hwyaid i un o'n rhai ni a dweud "Sbia chwc-chwcs" ac yn cael yr ateb sarrug "Hwyaid ydan nhw siwr!"

Un tueddiad rhyfedd gan hen bobol yn y gogledd yw gofyn i fabi, mewn llais cwtshicŵ" "Ydan nhw'n dy guro di?" - Ti mond yn disgwyl i'r babi ateb "Ydyn, ddwywaith y dydd â ffon fawr. Rhywbeth arall chi isho gwybod?".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: siarad babi

Postiogan Ray Diota » Maw 21 Gor 2009 6:41 pm

sian a ddywedodd: "Ydan nhw'n dy guro di?" - Ti mond yn disgwyl i'r babi ateb "Ydyn, ddwywaith y dydd â ffon fawr. Rhywbeth arall chi isho gwybod?".


eh?? ti di bod ar y brandis??
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: siarad babi

Postiogan asuka » Maw 21 Gor 2009 7:16 pm

ma hen bobol yn wàc ym mhob man. wi'n cofio llu (fi'n credu!) o hen bobol pan yn blentyn peder oed, yn awstralia yn gofyn ifi a o'dd cariad da fi to. pam sut chwilfrydedd?

(ma nw i gyd yn wàc ar wahân â f'annwyl dad a mam i wrth gwrs sy nwthe'n mynd yn hŷn erbyn hyn.)
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: siarad babi

Postiogan Azariah » Maw 21 Gor 2009 7:21 pm

Dyma'r union beth - "Magu'r Babi" http://www.uwp.co.uk/book_desc/1305.html
Azariah
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 7:13 pm

Re: siarad babi

Postiogan sian » Maw 21 Gor 2009 8:29 pm

Ray Diota a ddywedodd:
sian a ddywedodd: "Ydan nhw'n dy guro di?" - Ti mond yn disgwyl i'r babi ateb "Ydyn, ddwywaith y dydd â ffon fawr. Rhywbeth arall chi isho gwybod?".


eh?? ti di bod ar y brandis??


A maen nhw'n esgus rhedeg ar ôl y babi fel tyse fe wedi bod yn ddrwg ac yn gweud "Watsha di dy hun!" :?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: siarad babi

Postiogan Duw » Maw 21 Gor 2009 11:19 pm

Ffo ff** secs. Fe ddaw siarad â dy fabi'n naturiol. Paid â cheisio â dysgu rhyw crap. Stim ots pa iaith rwyt yn siarad a pha mor rhugl wyt ti. Mae'n iawn i siarad walocs i blentyn bach pob hyn a hyn, ond duw erioed, sicrha gaiff gyfle i ddysgu'r iaith honno - nid y mabi-pambi PC bolycs 'na dwi'n clywed gan 'new dads' yn eu lleisiau pitw, main, (e.e. 'Would you like Daddy to change your nappy darling?). O Crist, dere Uzi i'r sofftplei nesa a chael gwared ar y Happy Cardiff Middle-Class Arseholes 'ma. Dwi ishe sgrechen. Gallaf ddioddef 2 awr mewn Alphabet Zoo gyda chant o diawled bychain pan fydd gennyf hangover, ond rho 2 munud yng nghwmni un o'r tosyrs 'Helo Pumpkin' a dwi'n ufuddhau i'm gwallt coch ac am wasgu'r botwm. Kaboom!!

Iaith babi? Beth bynnag sy'n reit - ond paid a throi i mewn i un o'r twatbastards 'na. God elp, neu gwnaiff ddy blentyn droi mewn i un o'r mambi pambi, mae gennyf VICTIM wedi'i osod ar fy nhalcen, lwsers 'na.

Gad e dyfu lan fel dyn (neu fenyw os taw merch yw hi). Blydi streit. Gad y 'new age dad shit' 'na i'r ffyliau gwirion dwi wedi cyfeirio atynt eisoes.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: siarad babi

Postiogan asuka » Maw 21 Gor 2009 11:38 pm

diolch am y cyngor, duw. "cwac-cwacs" amdani te! :D

Duw a ddywedodd:Ffo ff** secs. Fe ddaw siarad â dy fabi'n naturiol.
ie, ond beth a ddaw? na sy'n ddychrynllyd.
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron