siarad babi
Postiwyd: Maw 21 Gor 2009 3:17 pm
a finne di dysgu'r iaith yn oedolyn a heb dreulio fawr o amser gyda phlant a'u rhieni yng nghymru, bydde da fi gryn ddiddordeb mewn dysgu ffordd fyddwch chi sy'n rhieni yn siarad gyda'ch plant!
sut mae siarad babi yn y gymraeg?
siarad yn ara teg i ddechre, sbo - ond beth arall? be chi'n dala eich hunain yn or-wneud? ynganu geiriau a synau fydde fel arall yn mynd ar goll, er enghraifft?:
"beth wyt ti'n neud, cariad?" yn lle "be ti'n neud, cariad?"