chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Elena » Llun 03 Awst 2009 4:31 pm

Helo pawb!
Gobeithio nad oes pawb wedi mynd i’r Eisteddfod felly oes cyfle i fi gael ateb oddi wrthoch chi. Dw i’n bellach yn ysgrifennu erthygl am “rotation verbs” yn Cymraeg. Hynny yw berfau fel troi (+troi a throi, troi a throsi), troelli, chwyldroi, chwyrlïo, cylchdroi, rholio/rowlio, ymdroelli, ymdroi, cylchu, powlio, ymdreiglo, ymgordeddu, sbinio
Felly mae gyda fi cwestiwnau a fyddwn i’n ddiolchgar iawn i chi:
Beth y berf (neu berfau, os mae mwy nag un yn bosib) addas yn y gapiau:
1. Mae branau yn _____________ uwch fy mhen
2. Mae barcud yn _____________ uwch llygoden
3. Mae llwybr yn _________
4. Dydy’r olwyn llygoden dim yn _________ (mae rywbeth o’i le).
5. Dydy’r esgaladur/grisiau symudol dim yn _________ (mae rywbeth o’i le)
6. Dydy’r conveyer (heb ffeindio gair Cymraeg, sori) dim yn _________ (mae rywbeth o’i le)
7. Dydy’r tap yn y recorder dim yn _________ (mae rywbeth o’i le)
8. Mae’na ffrae a mae dau dyn yn _________ ar y ddaear
9. Mae Siwan yn ____________ am bod ei phoen hi mor cryf
rywbeth tipyn wahanol, ond beth bynnag, dw i’n credu mae rhai o berfau uchod yn addas yma. Pa rai?
10. Mae swn o daran yn _____________ (yn y bellter)
11. Mae Sion wrth ei fod a Sian a mae o’n treilio cymaint o amser yn agos ei thy hi, mae o’n __________ yn agos i’w thy hi.

A cwestiwnau eraill am y pwnc:
1. Mewn dawnsio: rowlio ymlaen, rowlio’n ôl – beth mae’r dawnsiwr yn gwneud?
2. Beth allai powlio?

Diolch am eich cymorth!!!
Elena
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:55 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Kez » Llun 03 Awst 2009 5:21 pm

1) mae brain yn - troi/codi/hedfan/cylchdroi
2) hofran
3) ymdroelli
4) troi/symud/gweithio
5) symud/gweithio
6) symud /gweithio
7) troi/gweithio
8 ymaflyd codwm/ymrafael (?)/rhowlio ar y llawr
9) gwingo/ ymwingo(?)
10) taro clec
11) byw a bod

A cwestiwnau eraill am y pwnc:
1. Mewn dawnsio: rowlio ymlaen, rowlio’n ôl – beth mae’r dawnsiwr yn gwneud? - gwneud ffwl o'i hunan
2. Beth allai powlio? - deigryn/dagrau
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Kez » Llun 03 Awst 2009 8:33 pm

Dyma gynnig ar roi y geiriau ti'n son amdanynt mewn brawddeg Elena. Ma'n dibynnu fel ti'n defnyddio nhw weithiau cofia - context yw popeth

Os bydda i byth ym Mosco, mae arnat botelaid o fodca ifi :winc:

troi (+troi a throi, troi a throsi), troelli, chwyldroi, chwyrlïo, cylchdroi, rholio/rowlio, ymdroelli, ymdroi, sbinio, powlio, ymdreiglo, cylchu, ymgordeddu:


Rwy'n troi'r tap ymlaen.
Mae fy mola i'n troi a throi a bydda i'n chwydu cyn bo hir.
Rwy'n pallu cysgu; rwy'n troi a throsi yn y gwely
Ma'r olwyn ar y bws yn troelli (fi'n credu bo nhw'n galw 'troellwr' ar Disk Jockey sy'n troelli caneuon hefyd, ne falla bo hwnna yn hen ffasiwn erbyn hyn)
Mae'r cyfrifiadur wedi chwyldroi ein cymdeithas.
Bu im chwyrlio hwl-a-hwp rownd fy ngwddwg (really hen ffasiwn)
Ma'r planedau yn cylchdroi o gwmpas yr haul.
Fi'n lico rowlo tybaco (really ffasiynol)
Nant y mynydd groyw loyw yn ymdroelli tua'r pant.
Rwyf yn ymdroi gormod heb ddod at y pwynt
Wi byth yn mynd yn mynd i ifad wisgi 'to - ma pen fi'n sbino
Roedd y dagrau yn powlio i lawr ei gruddiau.
Nid oes eisiau llyfr treigladau arnaf, rwyf yn gallu ymdreiglo heb angen help yn y byd!!
cylchu - dim clem
ymgordeddu - ditto
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Elena » Gwe 07 Awst 2009 12:23 pm

Diolch, Kez!
Siwr o fod mae fodca arna i - croeso i Fosgo :)
Yn y cyfamser, un cwestiwn eto. Ydy brawddeg: Mae taran yn rowlio yn y pellter - yn iawn?
Elena
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:55 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Kez » Gwe 07 Awst 2009 12:54 pm

Elena a ddywedodd:
Yn y cyfamser, un cwestiwn eto. Ydy brawddeg: Mae taran yn rowlio yn y pellter - yn iawn?


Wi'n siwr bo hwnna'n iawn; defnydd ffigyrol sydd i rowlio yn y frawddeg honno - y swn sy'n rowlio tuag ato ti ne bant oddi wrtho ti, ife?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

powlio

Postiogan Elena » Mer 12 Awst 2009 11:30 am

Rhai cwestiwnau ereil am powlio. Allech chi ddweud i fi, os
1)ydy brawdegau'ma yn iawn?
2) ydy hi'n bosib i defnyddio berf arall (rholio/rowlio, troelli, chwyrlio, cylchu ayb) yma?

1. Roedd y dagrau yn powlio i lawr ei gruddiau. (ydy rholio yn bosib yma?)

2. Serch hynny, unwaith bob can mlynedd, mae'r meini yn powlio allan o'u tyllau ac yn rowlio i lawr i'r pant i yfed o'r pwll yn yr afon.

3. efallai, rhyw ddydd, pan fydd penwythnos tawel gennai a'r glaw yn powlio fe a'i draw i Blockbuster - ydy'r berf yndefnyddio glaw? Dydw i ddim yn ei ddeall yn iawn

4. Pwy all anghofio gweld Dai Llanilar yn powlio i lawr y llethrau wrth iddo drio meistroli'r grefft o sgio ym mhentref sgio Courmayer yng ngogledd yr Eidal? - beth a wnaeth o?

6. Mae mwg gwyn yn powlio bob hyn a hyn o gopaon yr adeiladau.

Diolch eto!
Elena
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:55 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Kez » Mer 12 Awst 2009 2:13 pm

Byddai rholio yn gywir yn rhif 1.

Dwi ddim yn gyfarwydd a'r gair 'powlio' a dweud y gwir Elena. Rwy'n gyfarwydd a'r enghraifft gyntaf wrth ddod ar ei thraws hi mewn llyfrau.

Wi'n siwr taw gair y Gogledd yw hi a daw rhywun o'r parthau yna i ddweud os yw hi'n gywir yn y brawddegau eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan sian » Mer 12 Awst 2009 2:22 pm

Kez a ddywedodd:Byddai rholio yn gywir yn rhif 1.

Dwi ddim yn gyfarwydd a'r gair 'powlio' a dweud y gwir Elena. Rwy'n gyfarwydd a'r enghraifft gyntaf wrth ddod ar ei thraws hi mewn llyfrau.

Wi'n siwr taw gair y Gogledd yw hi a daw rhywun o'r parthau yna i ddweud os yw hi'n gywir yn y brawddegau eraill.


Dim amser i ddarllen yr edefyn cyfan:

Ond mae dagrau'n powlio i lawr dy wyneb ac rwyt ti'n powlio coetsh (pram/pushchair) a berfa (whilber). Gobeithio bod hynna'n helpu.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan Elena » Gwe 14 Awst 2009 11:23 am

Diolch yn fawr, kez a sian!
Dim ond y siaradwyr Cymraeg ei mamiaith gallen fy helpu i - er i fi dadansoddi cymaint o eiriaduron - felly diolch eto.
Felly ydw i'n iawn i dweud nad yw'r brawddeg:
Mae mwg gwyn yn powlio bob hyn a hyn o gopaon yr adeiladau.
ddim yn iawn yn eich barn chi? Dw i'n credu bod y we yn llawn o Gymraeg wedi ei dysgu (fel yr un ydw i yn ei ysgrifennu), a mae llawer o gamgymeiriadau yno. Ydw i'n iawn? Ond, beth bynnag, y beth ardderhog yw bod pobl yn eisiau ei ddefnyddio, dw i'n credu.
Elena
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:55 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: chwyrlio, troelli, sbinio ac ati

Postiogan sian » Gwe 14 Awst 2009 12:53 pm

Elena a ddywedodd:Mae mwg gwyn yn powlio bob hyn a hyn o gopaon yr adeiladau.
ddim yn iawn yn eich barn chi?


Dw i'n meddwl bod hynna'n swnio'n farddonol iawn! Dw i'n dychmygu cymylau mawr o fwg fel pe baen nhw'n rowlio tuag ataf o'r simneiau ar ddiwrnod llonydd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron