Tudalen 1 o 1

rybelwr

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 2:31 pm
gan Hazel
Beth yw "rybelwr"? Mae'n cyfeirio at rywun sy yn chwareli garrig. Diolch

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 3:26 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n gobeithio fy mod i'n iawn fan hyn, achos fydda hi'n gywilydd i rywun o Ddyffryn Ogwan cael hyn yn anghywir (deep breath wan), ond dwi'n meddwl mai rybelwr ydi'r enw y byddai chwarelwyr ifanc sy'n dysgu'r grefft o chwarela yn cael ei alw (a thrwy ifanc dwi'n golygu hogiau fan hyn) - rhyw fath o brentis answyddogol mewn ffordd, y byddai'n mynd o amgylch y chwarel yn helpu'r carfannau gwahanol ac yn dysgu am wahanol swyddogaethau.

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 3:37 pm
gan Hazel
Oh, diolch yn fawr i chi. Byddai hynny'n ddoeth yn y stori y dw i'n darllen. Prentis, ie. :)

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 9:46 pm
gan Macsen
Prentis torri llechans yn chwaral.

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Iau 06 Awst 2009 9:56 pm
gan Hazel
Diolch. A all y gair "cerrig" yn olygu "slate" hefyd?

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Gwe 07 Awst 2009 7:52 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi byth wedi clywed llechi'n cael eu cyfeirio at fel 'cerrig' o'r blaen yn bersonol.

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Gwe 07 Awst 2009 10:11 am
gan Hazel
O'r gorau. Mae'r storin dweud: "Eto i gyd, digon prin fyddai cerrig Eb yn aml." a " 'Oes gin ti ddim cerrig, Eb?"

Dim ots. Gallaf i ddarllen o'i gwmpas e. Diolch.

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Gwe 07 Awst 2009 11:52 am
gan Kez
Hazel a ddywedodd:O'r gorau. Mae'r storin dweud: "Eto i gyd, digon prin fyddai cerrig Eb yn aml." a " 'Oes gin ti ddim cerrig, Eb?"

Dim ots. Gallaf i ddarllen o'i gwmpas e. Diolch.


Efallai bod rhywun yn tynnu coes Eb ac yn awgymu nad oes digon o spermatozoa yn had ei gerrig e.

Mae cerrig ag ystyr 'slang' iddynt weithiau.

Re: rybelwr

PostioPostiwyd: Llun 10 Awst 2009 10:29 am
gan sian
Yn ôl GPC, mae rybelwr yn un sy'n "casglu cerrig o rwbel, rhai a wrthodwyd gan chwarelwyr ... neu rai dros ben ganddynt, a'u gweithio'n llechi (yn enwedig fel math o brentisiaeth)"