rybelwr

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

rybelwr

Postiogan Hazel » Iau 06 Awst 2009 2:31 pm

Beth yw "rybelwr"? Mae'n cyfeirio at rywun sy yn chwareli garrig. Diolch
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: rybelwr

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 06 Awst 2009 3:26 pm

Dwi'n gobeithio fy mod i'n iawn fan hyn, achos fydda hi'n gywilydd i rywun o Ddyffryn Ogwan cael hyn yn anghywir (deep breath wan), ond dwi'n meddwl mai rybelwr ydi'r enw y byddai chwarelwyr ifanc sy'n dysgu'r grefft o chwarela yn cael ei alw (a thrwy ifanc dwi'n golygu hogiau fan hyn) - rhyw fath o brentis answyddogol mewn ffordd, y byddai'n mynd o amgylch y chwarel yn helpu'r carfannau gwahanol ac yn dysgu am wahanol swyddogaethau.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: rybelwr

Postiogan Hazel » Iau 06 Awst 2009 3:37 pm

Oh, diolch yn fawr i chi. Byddai hynny'n ddoeth yn y stori y dw i'n darllen. Prentis, ie. :)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: rybelwr

Postiogan Macsen » Iau 06 Awst 2009 9:46 pm

Prentis torri llechans yn chwaral.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: rybelwr

Postiogan Hazel » Iau 06 Awst 2009 9:56 pm

Diolch. A all y gair "cerrig" yn olygu "slate" hefyd?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: rybelwr

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 07 Awst 2009 7:52 am

Dwi byth wedi clywed llechi'n cael eu cyfeirio at fel 'cerrig' o'r blaen yn bersonol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: rybelwr

Postiogan Hazel » Gwe 07 Awst 2009 10:11 am

O'r gorau. Mae'r storin dweud: "Eto i gyd, digon prin fyddai cerrig Eb yn aml." a " 'Oes gin ti ddim cerrig, Eb?"

Dim ots. Gallaf i ddarllen o'i gwmpas e. Diolch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: rybelwr

Postiogan Kez » Gwe 07 Awst 2009 11:52 am

Hazel a ddywedodd:O'r gorau. Mae'r storin dweud: "Eto i gyd, digon prin fyddai cerrig Eb yn aml." a " 'Oes gin ti ddim cerrig, Eb?"

Dim ots. Gallaf i ddarllen o'i gwmpas e. Diolch.


Efallai bod rhywun yn tynnu coes Eb ac yn awgymu nad oes digon o spermatozoa yn had ei gerrig e.

Mae cerrig ag ystyr 'slang' iddynt weithiau.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: rybelwr

Postiogan sian » Llun 10 Awst 2009 10:29 am

Yn ôl GPC, mae rybelwr yn un sy'n "casglu cerrig o rwbel, rhai a wrthodwyd gan chwarelwyr ... neu rai dros ben ganddynt, a'u gweithio'n llechi (yn enwedig fel math o brentisiaeth)"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai