Tudalen 1 o 1

Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 6:49 pm
gan Hazel
Beth yw "Bro Hiraethog"? Dim ond grŵp trafodaeth? Diolch.

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 7:24 pm
gan sian
Yr ardal o gwmpas Mynydd Hiraethog (Denbigh Moors) yw Bro Hiraethog.
Dyma wefan.


Mae 'na grŵp trafod Hybu Cig Cymru yn yr ardal.

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 7:28 pm
gan Hazel
Diolch i chi.

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 8:29 am
gan Rhys
sian a ddywedodd:Mae 'na grŵp trafod Hybu Cig Cymru yn yr ardal.


Falle nad ydy Bro Hiraethog yn le ofnadwy o fyrlymus, ond mae mwy i'r lle na dim ond grŵp hybu cig!

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 8:52 am
gan sian
Rhys a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Mae 'na grŵp trafod Hybu Cig Cymru yn yr ardal.


Falle nad ydy Bro Hiraethog yn le ofnadwy o fyrlymus, ond mae mwy i'r lle na dim ond grŵp hybu cig!


:lol: :lol: :lol: :lol:

Hazel ofynnodd
"Beth yw "Bro Hiraethog"? Dim ond grŵp trafodaeth? Diolch."


Ro'n i'n meddwl bod hyn yn swnio'n rhyfedd ond os wyt ti'n Gwglo "Bro Hiraethog", mae'r tair neu bedair eitem gynta sy'n dod i fyny yn cyfeirio at "Grŵp Trafod Hybu Cig Cymru". Treio esbonio'r camddealltwriaeth ro'n i.

Siwr ei fod yn lle hyfryd iawn - cofio cael stecen werth chweil mewn tafarn Gymreigaidd iawn yno rhyw dro.

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 12:21 pm
gan Hazel
Yr ardol ble mae'r rhostiroedd ydy Bro Hiraethog?

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 12:44 pm
gan sian
Disgrifiad o'r ardal yma

Re: Bro Hiraethog

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 1:15 pm
gan Hazel
Diolch. Dyna beth oeddwn i'n meddwl.