Bydda'i / 'na'i

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bydda'i / 'na'i

Postiogan y mab afradlon » Llun 31 Awst 2009 8:46 pm

Wedi bod yn helpu dysgwyr, a nhwythau'n gofyn am esboniad, yn arbennig ar wnei di / byddi di.

Wel, mae'n amlwg, Wnei di...? Cwestiwn cwrtais. Fyddi di...? Gofyn am beth fydd yn digwydd.

Ond wedyn, sylweddoli nag ydw i'n defnyddio bydda'i / byddi etc. Ar wahan i'r berfau cryno, bysen i'n gweud "'na'i ofyn yn y bore", neu "Newn ni ganu am bythdi wyth."

Ydy hynny'n dafodieithol gywir (De ddwyrain), neu ai diogi wedi'i ddysgu gan y gyfundrefn addysg Gymraeg yw hi?

Yn fwy pwysig, beth yw'r gwahaniaeth rhwng "Bydda'i'n chwilio am hwnnw nes mlaen," a "Na'i chwilio am hwnnw nes mlaen."

Beth sydd isie i fi wneud yw i siarad gyda cwpl o Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd a rhyw fath o wenhwyseg, ond does dim rhyw lawer ohonyn nhw yn Ne Ffrainc!

Kes? Ceri B? y Fampir? (Neu'r bythol gymwynasgar Sian!!)

Diolch!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan sian » Llun 31 Awst 2009 9:26 pm

Dw i ddim yn gyfarwydd iawn â Chymraeg y de ddwyrain.

I fi, "Bydda'i'n chwilio am hwnnw nes mlaen," = "I'll be looking for that later on" a "Na'i chwilio am hwnnw nes mlaen." = "I'll look for that later on".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan Kez » Llun 31 Awst 2009 10:26 pm

Wi'm yn siwr beth yw'r cwestiwn.

O ran - "Bydda'i'n chwilio am hwnnw nes mlaen," a "Na'i chwilio am hwnnw nes mlaen."

Wela i ddim bod lot o wahaniaeth fan yna - jyst bod y ffurf gida 'gwneud' yn fwy pendant o bosib, ond ma'r gwahaniaeth yn subtle iawn, yn union fel mae cyfieithiad Sian i'r Saesneg.

Tasech chi'n gweud rhywbeth fel:

Nei di ddod yfory? - ma hwnna'n gwestiwn mwy uniongyrchol na gofyn - Fyddi di'n dod yfory? - ond eto i gyd ma'r gwahaniaeth yn subtle iawn.

Wn i'm wir ac fi'n drysu m'unan nawr :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan y mab afradlon » Maw 01 Medi 2009 9:45 pm

y mab afradlon a ddywedodd:Kes? Ceri B? y Fampir? (Neu'r bythol gymwynasgar Sian!!)


"I rest my case!"

Diolch Sian, wy wedi bod yn trio 'ngorau glas i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y ddau beth i'n hunan, heb son am i ddysgwyr. Mae'n rhyfedd - chi'n gwbod pryd i ddefnyddio'r un neu'r llall, ond yn ffaelu'n lan ag esbonio pam!

Kez - Sa'i wedi drysu felly. mae "na'i fynd", "na'i redeg", "na'i wilo," yn ddigon cyffredin. Diolch!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 01 Medi 2009 11:41 pm

Os bydd, e.e., gem rygbi, fyddi di yno? Wnei di fynd yno? Syniad efallai?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan asuka » Maw 08 Medi 2009 12:27 pm

ond, on'd yw'r defnydd ar "i will be (going)" yn saesneg yn gyfyngedig braidd? mae e'n awgrymu i fi bo fi neu rywun arall wedi gwneud penderfyniad, a dyma fi'n datgelu'r cynllun gosod: "(i have decided/learnt that) i will be going".
wi'n rhyw gredu bod "bydda i'n..." cymraeg yn llai cul ei ystyr o bosib nag "i'll be..." saesneg.
?
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan Kez » Maw 08 Medi 2009 1:53 pm

Ystyr arall i 'Byddaf' yw i fynegi rhywbeth sy'n digwydd yn gyson, lle ti'n cal y presennol mynegol yn Saesneg:

Bydda i'n mynd mas bob nos Sadwrn - I go out every Saturday night.

A ydy hi'n gywir i ddweud - dwi'n mynd mas bob nos Sadwrn - yn Gymraeg neu ife dylanwad y Saesneg yw hwnna?

Byddai 'Fe wnaf i fynd mas pob nos Sadwrn' ag ystyr wahanol iddi, sef bwriad yn y dyfodol neu odw i'n drysu?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan asuka » Maw 08 Medi 2009 2:09 pm

pwynt da. pa mor hen / pa mor gywir yw'r arfer o iwsio "mae" gydag ymadroddion cyson fel "bob tro", "acha dy sul" ac ati?

hefyd (cwestiwn hollol wahanol - all rhywun ateb hyn i fi?) - tybed oes na ferfau penodol y mae'n well 'da nhw "byddaf" na "gwnaf".
e.e. mae "byddai'n gwbod" yn edrych yn well i fi na "na i wybod," sdim ots am y cyd-destun.
cỳ cỳ alw rangers!
Rhithffurf defnyddiwr
asuka
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 27 Chw 2007 3:02 pm
Lleoliad: ohio, u.d.a.

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan Kez » Maw 08 Medi 2009 3:59 pm

asuka a ddywedodd:hefyd (cwestiwn hollol wahanol - all rhywun ateb hyn i fi?) - tybed oes na ferfau penodol y mae'n well 'da nhw "byddaf" na "gwnaf".
e.e. mae "byddai'n gwbod" yn edrych yn well i fi na "na i wybod," sdim ots am y cyd-destun.


Wn i'm wir, ond o ran 'gwybod' fi'n siwr bo ti'n gallu dweud y ddwy enghraifft uchod heb fawr o wahaniaeth ystyr ne dderbynioldeb.

Er enghraifft, pe taset ti'n rhybuddio dy plant i beidio a chwarae'r clown yn yr ysgol - gelli di ddweud wrthynt:

Os byddwch chi'n cambihafio yn yr ysgol, bydda i'n gwybod! (falla bo ti'n ffrind i'r athro a neiff e weud 'thot ti nes mlan)
Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i wybod! (ditto)

Wn i ddim am bob un cyd-destun cofia.

Byddwn i'n dueddol o weud -'gaf i wbod' neu 'bydda i'n cal gwbod' ond yfi yw hwnna. Mater o steil yw e wedi'r cwbwl ac ma da fi lot o'ano fe - fel sy gan Posh Spice, er enghraifft :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Bydda'i / 'na'i

Postiogan sian » Maw 08 Medi 2009 4:30 pm

Kez a ddywedodd:Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i wybod! (ditto)

Ti'n siwr bod hwnna'n iawn? Sai'n credu 'ny.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron