Tudalen 1 o 2
Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Llun 31 Awst 2009 8:46 pm
gan y mab afradlon
Wedi bod yn helpu dysgwyr, a nhwythau'n gofyn am esboniad, yn arbennig ar wnei di / byddi di.
Wel, mae'n amlwg, Wnei di...? Cwestiwn cwrtais. Fyddi di...? Gofyn am beth fydd yn digwydd.
Ond wedyn, sylweddoli nag ydw i'n defnyddio bydda'i / byddi etc. Ar wahan i'r berfau cryno, bysen i'n gweud "'na'i ofyn yn y bore", neu "Newn ni ganu am bythdi wyth."
Ydy hynny'n dafodieithol gywir (De ddwyrain), neu ai diogi wedi'i ddysgu gan y gyfundrefn addysg Gymraeg yw hi?
Yn fwy pwysig, beth yw'r gwahaniaeth rhwng "Bydda'i'n chwilio am hwnnw nes mlaen," a "Na'i chwilio am hwnnw nes mlaen."
Beth sydd isie i fi wneud yw i siarad gyda cwpl o Gymry Cymraeg iaith gyntaf sydd a rhyw fath o wenhwyseg, ond does dim rhyw lawer ohonyn nhw yn Ne Ffrainc!
Kes? Ceri B? y Fampir? (Neu'r bythol gymwynasgar Sian!!)
Diolch!
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Llun 31 Awst 2009 9:26 pm
gan sian
Dw i ddim yn gyfarwydd iawn รข Chymraeg y de ddwyrain.
I fi, "Bydda'i'n chwilio am hwnnw nes mlaen," = "I'll be looking for that later on" a "Na'i chwilio am hwnnw nes mlaen." = "I'll look for that later on".
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Llun 31 Awst 2009 10:26 pm
gan Kez
Wi'm yn siwr beth yw'r cwestiwn.
O ran -
"Bydda'i'n chwilio am hwnnw nes mlaen," a "Na'i chwilio am hwnnw nes mlaen."Wela i ddim bod lot o wahaniaeth fan yna - jyst bod y ffurf gida '
gwneud' yn fwy pendant o bosib, ond ma'r gwahaniaeth yn
subtle iawn, yn union fel mae cyfieithiad Sian i'r Saesneg.
Tasech chi'n gweud rhywbeth fel:
Nei di ddod yfory? - ma hwnna'n gwestiwn mwy uniongyrchol na gofyn -
Fyddi di'n dod yfory? - ond eto i gyd ma'r gwahaniaeth yn
subtle iawn.
Wn i'm wir ac fi'n drysu m'unan nawr
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 01 Medi 2009 9:45 pm
gan y mab afradlon
y mab afradlon a ddywedodd:Kes? Ceri B? y Fampir? (Neu'r bythol gymwynasgar Sian!!)
"I rest my case!"
Diolch Sian, wy wedi bod yn trio 'ngorau glas i esbonio'r gwahaniaeth rhwng y ddau beth i'n hunan, heb son am i ddysgwyr. Mae'n rhyfedd - chi'n gwbod pryd i ddefnyddio'r un neu'r llall, ond yn ffaelu'n lan ag esbonio pam!
Kez - Sa'i wedi drysu felly. mae "na'i fynd", "na'i redeg", "na'i wilo," yn ddigon cyffredin. Diolch!
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 01 Medi 2009 11:41 pm
gan Seonaidh/Sioni
Os bydd, e.e., gem rygbi, fyddi di yno? Wnei di fynd yno? Syniad efallai?
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 08 Medi 2009 12:27 pm
gan asuka
ond, on'd yw'r defnydd ar "i will be (going)" yn saesneg yn gyfyngedig braidd? mae e'n awgrymu i fi bo fi neu rywun arall wedi gwneud penderfyniad, a dyma fi'n datgelu'r cynllun gosod: "(i have decided/learnt that) i will be going".
wi'n rhyw gredu bod "bydda i'n..." cymraeg yn llai cul ei ystyr o bosib nag "i'll be..." saesneg.
?
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 08 Medi 2009 1:53 pm
gan Kez
Ystyr arall i 'Byddaf' yw i fynegi rhywbeth sy'n digwydd yn gyson, lle ti'n cal y presennol mynegol yn Saesneg:
Bydda i'n mynd mas bob nos Sadwrn - I go out every Saturday night.
A ydy hi'n gywir i ddweud - dwi'n mynd mas bob nos Sadwrn - yn Gymraeg neu ife dylanwad y Saesneg yw hwnna?
Byddai 'Fe wnaf i fynd mas pob nos Sadwrn' ag ystyr wahanol iddi, sef bwriad yn y dyfodol neu odw i'n drysu?
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 08 Medi 2009 2:09 pm
gan asuka
pwynt da. pa mor hen / pa mor gywir yw'r arfer o iwsio "mae" gydag ymadroddion cyson fel "bob tro", "acha dy sul" ac ati?
hefyd (cwestiwn hollol wahanol - all rhywun ateb hyn i fi?) - tybed oes na ferfau penodol y mae'n well 'da nhw "byddaf" na "gwnaf".
e.e. mae "byddai'n gwbod" yn edrych yn well i fi na "na i wybod," sdim ots am y cyd-destun.
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 08 Medi 2009 3:59 pm
gan Kez
asuka a ddywedodd:hefyd (cwestiwn hollol wahanol - all rhywun ateb hyn i fi?) - tybed oes na ferfau penodol y mae'n well 'da nhw "byddaf" na "gwnaf".
e.e. mae "byddai'n gwbod" yn edrych yn well i fi na "na i wybod," sdim ots am y cyd-destun.
Wn i'm wir, ond o ran
'gwybod' fi'n siwr bo ti'n gallu dweud y ddwy enghraifft uchod heb fawr o wahaniaeth ystyr ne dderbynioldeb.
Er enghraifft, pe taset ti'n rhybuddio dy plant i beidio a chwarae'r clown yn yr ysgol - gelli di ddweud wrthynt:
Os byddwch chi'n cambihafio yn yr ysgol, bydda i'n gwybod! (
falla bo ti'n ffrind i'r athro a neiff e weud 'thot ti nes mlan)
Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i wybod! (
ditto)
Wn i ddim am bob un cyd-destun cofia.
Byddwn i'n dueddol o weud -
'gaf i wbod' neu
'bydda i'n cal gwbod' ond yfi yw hwnna. Mater o steil yw e wedi'r cwbwl ac ma da fi lot o'ano fe - fel sy gan Posh Spice, er enghraifft
Re: Bydda'i / 'na'i
Postiwyd:
Maw 08 Medi 2009 4:30 pm
gan sian
Kez a ddywedodd:Os byddwch chi'n cambifhafio yn yr ysgol, 'na i wybod! (ditto)
Ti'n siwr bod hwnna'n iawn? Sai'n credu 'ny.