Oes rhywun yn gallu fy helpu gyda chyfieithu 'base'?
Dyma'r cyd-destyn:
"basedir" yn meddwl "base directory" (technoleg gwybodaeth)
Cyfeiriadur cartref yw'r unig cyfieithiad dwi'n gallu ffeindio (gwefan Kywiro).
Ystyr y peth:
Os oedd ffeil, e.e. c:\My Documents\ffotos\cwmtwrch\twll.jpg, y basedir bydde "cwmtwrch", sef y cyfeiriadur sy'n cynnwys y ffeil.
Does dim byd ar eiriaduron byig.
Dwi'm lico 'cartref', oes rhywbeth fel 'gwaelod' yn gwneud synnwyr? Er falle'n dwi'n rong a bod 'cartref' yn iawn.
Diolch am unrhyw awgrymiadau.