Tudalen 1 o 1

'Base'

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 8:14 pm
gan Duw
Oes rhywun yn gallu fy helpu gyda chyfieithu 'base'?

Dyma'r cyd-destyn:

"basedir" yn meddwl "base directory" (technoleg gwybodaeth)

Cyfeiriadur cartref yw'r unig cyfieithiad dwi'n gallu ffeindio (gwefan Kywiro).


Ystyr y peth:

Os oedd ffeil, e.e. c:\My Documents\ffotos\cwmtwrch\twll.jpg, y basedir bydde "cwmtwrch", sef y cyfeiriadur sy'n cynnwys y ffeil.

Does dim byd ar eiriaduron byig.

Dwi'm lico 'cartref', oes rhywbeth fel 'gwaelod' yn gwneud synnwyr? Er falle'n dwi'n rong a bod 'cartref' yn iawn.

Diolch am unrhyw awgrymiadau.

Re: 'Base'

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 9:34 pm
gan Shadrach
Duw a ddywedodd:Oes rhywun yn gallu fy helpu gyda chyfieithu 'base'?

Dyma'r cyd-destyn:

"basedir" yn meddwl "base directory" (technoleg gwybodaeth)

Cyfeiriadur cartref yw'r unig cyfieithiad dwi'n gallu ffeindio (gwefan Kywiro).


Ystyr y peth:

Os oedd ffeil, e.e. c:\My Documents\ffotos\cwmtwrch\twll.jpg, y basedir bydde "cwmtwrch", sef y cyfeiriadur sy'n cynnwys y ffeil.

Does dim byd ar eiriaduron byig.

Dwi'm lico 'cartref', oes rhywbeth fel 'gwaelod' yn gwneud synnwyr? Er falle'n dwi'n rong a bod 'cartref' yn iawn.

Diolch am unrhyw awgrymiadau.


Cyfeiriadur sail?
Cyfeiriadur bon?

Re: 'Base'

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 9:45 pm
gan dafydd
Yn dod o gefndir Unix/Linux dwi wedi arfer gyda metaffor coeden - root/tree ayyb. Felly fe fydden i yn dweud bôn (nid fod e'n mynd i fod yn gyfarwydd). Ond mae'r rhoi'r syniad o lwybr o'r 'gwreiddyn' i'r canghennau i ddiwedd y brigyn (gyda'r ffeil fel y 'ddeilen').

Re: 'Base'

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 11:26 pm
gan Duw
Hoffi'r metaffor. Diolch i chi'ch dau. Bon (gyda to) fydd hi dwi'n meddwl. Basgyfeiriadur? Na wylle ddim.