Tudalen 1 o 1

lluosog "onco fynco"?

PostioPostiwyd: Sad 12 Medi 2009 5:46 pm
gan asuka
oes rywun yn gweud "reico mynco" am y rhai acw byth?

neu fe "reico manne'co" ddyle fe fod!??? :o

Re: lluosog "onco fynco"?

PostioPostiwyd: Sad 12 Medi 2009 6:17 pm
gan sian
asuka a ddywedodd:oes rywun yn gweud "reico mynco" am y rhai acw byth?

neu fe "reico manne'co" ddyle fe fod!??? :o


rheico neu rheinco fynco fi'n meddwl.

Re: lluosog "onco fynco"?

PostioPostiwyd: Sad 12 Medi 2009 7:37 pm
gan Kez
'Swn i jyst yn gweud 'hwnco' a rheinco'.

Ma gweud 'hwnco mynco' a rheinco mynco' ac ati yn swno rial iaith hambon ifi erbyn hyn - bai Dewi Pws yn siarad fel 'ny ar ei raglen gomedi ers llawer dydd siwr o fod! Er rhaid gweud, ma digon o hambons yn dal i siarad fel 'ny, yn enwedig yn y Wild West :)

Fi ariod wedi clwad rhywun yn gweud 'reico manne 'co'. Bysa hwnna yn gotro'r fuwch bach gormod, fi'n credu :winc: