Tudalen 1 o 1

cwm/dyffryn

PostioPostiwyd: Sul 13 Medi 2009 9:08 pm
gan Emma Reese
Fasai rhywun yn medru esbonio beth ydy'r gwahaniaeth rhwng cwm a dyffryn?

Re: cwm/dyffryn

PostioPostiwyd: Llun 14 Medi 2009 7:45 am
gan sian
Emma Reese a ddywedodd:Fasai rhywun yn medru esbonio beth ydy'r gwahaniaeth rhwng cwm a dyffryn?


Yr argraff sydd gen i yw bod cwm yn gulach ac iddo ochrau serth a bod dyffryn yn fwy eang - yn aml yn cynnwys tir ffermio da.

GPC: cwm: "dyffryn cul a dwfn ac ochrau serth iddo". Yn ddifyr iawn, mae'n dweud bod "cwm" yn dod o'r un tarddiad รข'r geiriau am lestr (Gwyddeleg), cafn bwydo, noe (Llydaweg), gwaelod llong (Galeg (Gaulish)), cwpan, bowlen, cwch / pant, padell, cwpan (Groeg)

Mae'n dweud bod "dyffryn" "fel rheol yn lletach na glyn neu gwm". Mae'r gair dyffryn yn dod o dwfr + hynt.

Re: cwm/dyffryn

PostioPostiwyd: Llun 14 Medi 2009 9:02 am
gan Mr Gasyth
dwi'n meddwl mai'r diffyniad daearegol o gwm ydi dyffryn a ffurfiwyd gan rewlif - sydd yn esbonio ei ochrau serth a chulni.

Re: cwm/dyffryn

PostioPostiwyd: Llun 14 Medi 2009 1:41 pm
gan Emma Reese
Diolch yn fawr i chi, Sian, Mr. Gasyth am y wybodaeth!

Re: cwm/dyffryn

PostioPostiwyd: Maw 15 Medi 2009 8:16 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n meddwl mai'r diffyniad daearegol o gwm ydi dyffryn a ffurfiwyd gan rewlif - sydd yn esbonio ei ochrau serth a chulni.

Dw i ddim yn credu. Mewn daeareg, mae term arbennig, sef "cwm" neu "corrie" (coire) neu "cirque", am dwll o flaen copa mynydd a gafnwyd gan ia ac yn aml iawn mae llyn bach ynddo. Ond yn gyffredinol, e.e. Cwm Rhondda ac ati, dim ond dyffryn cul mae cwm yn golygu. Rhaid cofio hefyd fod rhewlif yn tueddu i ffurfio dyffryn U, nid dyffryn V, h.y. dyffryn yn hytrach na chwm.