cwm/dyffryn

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

cwm/dyffryn

Postiogan Emma Reese » Sul 13 Medi 2009 9:08 pm

Fasai rhywun yn medru esbonio beth ydy'r gwahaniaeth rhwng cwm a dyffryn?
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: cwm/dyffryn

Postiogan sian » Llun 14 Medi 2009 7:45 am

Emma Reese a ddywedodd:Fasai rhywun yn medru esbonio beth ydy'r gwahaniaeth rhwng cwm a dyffryn?


Yr argraff sydd gen i yw bod cwm yn gulach ac iddo ochrau serth a bod dyffryn yn fwy eang - yn aml yn cynnwys tir ffermio da.

GPC: cwm: "dyffryn cul a dwfn ac ochrau serth iddo". Yn ddifyr iawn, mae'n dweud bod "cwm" yn dod o'r un tarddiad â'r geiriau am lestr (Gwyddeleg), cafn bwydo, noe (Llydaweg), gwaelod llong (Galeg (Gaulish)), cwpan, bowlen, cwch / pant, padell, cwpan (Groeg)

Mae'n dweud bod "dyffryn" "fel rheol yn lletach na glyn neu gwm". Mae'r gair dyffryn yn dod o dwfr + hynt.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: cwm/dyffryn

Postiogan Mr Gasyth » Llun 14 Medi 2009 9:02 am

dwi'n meddwl mai'r diffyniad daearegol o gwm ydi dyffryn a ffurfiwyd gan rewlif - sydd yn esbonio ei ochrau serth a chulni.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: cwm/dyffryn

Postiogan Emma Reese » Llun 14 Medi 2009 1:41 pm

Diolch yn fawr i chi, Sian, Mr. Gasyth am y wybodaeth!
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: cwm/dyffryn

Postiogan Seonaidh/Sioni » Maw 15 Medi 2009 8:16 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n meddwl mai'r diffyniad daearegol o gwm ydi dyffryn a ffurfiwyd gan rewlif - sydd yn esbonio ei ochrau serth a chulni.

Dw i ddim yn credu. Mewn daeareg, mae term arbennig, sef "cwm" neu "corrie" (coire) neu "cirque", am dwll o flaen copa mynydd a gafnwyd gan ia ac yn aml iawn mae llyn bach ynddo. Ond yn gyffredinol, e.e. Cwm Rhondda ac ati, dim ond dyffryn cul mae cwm yn golygu. Rhaid cofio hefyd fod rhewlif yn tueddu i ffurfio dyffryn U, nid dyffryn V, h.y. dyffryn yn hytrach na chwm.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron