Tudalen 1 o 1

well-trodden path

PostioPostiwyd: Maw 06 Hyd 2009 2:19 pm
gan Sioni Size
Unrhyw syniad am derm Cymraeg gogyfer yr ymadrodd `well-trodden path`?

Re: well-trodden path

PostioPostiwyd: Maw 06 Hyd 2009 2:45 pm
gan sian
Ti'n meddwl am rywbeth fel "canu'r un hen gân" - 'ta ti'n sôn am lwybrau?

Re: well-trodden path

PostioPostiwyd: Maw 06 Hyd 2009 4:52 pm
gan Sioni Size
Llwybrau metafforig, yn golygu dilyn olion traed profiadol math-o-beth, heb fod yn awgrymu mynd yn stel fel byddai 'yr un hen gan'.

Re: well-trodden path

PostioPostiwyd: Maw 06 Hyd 2009 5:12 pm
gan Hazel
Mae Academi yn dweud am "well-trodden path" "llwybr sathredig". O'r gorau?

Am "rarely-trodden" = ansathredig

Re: well-trodden path

PostioPostiwyd: Maw 06 Hyd 2009 8:49 pm
gan Azariah
Sioni Size a ddywedodd:Unrhyw syniad am derm Cymraeg gogyfer yr ymadarodd `well-trodden path`?

llwybr defaid?

Re: well-trodden path

PostioPostiwyd: Mer 07 Hyd 2009 8:55 am
gan Sioni Size
Diolch yn dalpau. Llwybr Defaid yn opsiwn dewr a da, Sathredig yn taro'r hoelen yn sgwar.