Tudalen 1 o 1

Aballu

PostioPostiwyd: Sul 25 Hyd 2009 2:29 am
gan Mali
'Roedd emmareese a finna'n sgwrsio ar skype ddydd Llun diwethaf , ac mi ddaeth y gair 'aballu ' i fyny yn ystod ein sgwrs. Mae'r ddwy ohonom yn ei ddefnyddio yn ein Cymraeg llafar ac ysgrifenedig , ond oes 'na aelod o faes-e yn gwybod hanes y gair 'aballu' ogydd?

Re: Aballu

PostioPostiwyd: Sul 25 Hyd 2009 10:50 am
gan Pryderi
"A pethau felly"

Re: Aballu

PostioPostiwyd: Llun 26 Hyd 2009 8:32 pm
gan Mali
Diolch Pryderi ...mae hynny'n gwneud synnwyr . :D
Ydio'n cael ei ddefnyddio yn y Gogledd yn unig ? 'Roedd fy ngwr i'n darllen ' Y Trydydd Peth ' y diwrnod o'r blaen , ac 'roedd y gair aballu yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn.

Re: Aballu

PostioPostiwyd: Maw 27 Hyd 2009 5:57 pm
gan Emma Reese
Mi ddes i ar draws 'a ballu' am y tro cyntaf yn un o lyfrau Robin Llywelyn, sef Un Diwrnod yn yr Eisteddfod. Fedrwn i ddim ffeindio'r gair mewn geiriadur. Wnes i ddyfalu'r ystyr wedi 'i weld o a'i glywed o sawl tro ers hynny. (Orffenes i mo'r llyfr gwaetha'r modd!)

Re: Aballu

PostioPostiwyd: Maw 27 Hyd 2009 6:05 pm
gan Hazel
Emma Reese a ddywedodd:Mi ddes i ar draws 'a ballu' am y tro cyntaf yn un o lyfrau Robin Llywelyn, sef Un Diwrnod yn yr Eisteddfod. Fedrwn i ddim ffeindio'r gair mewn geiriadur. Wnes i ddyfalu'r ystyr wedi 'i weld o a'i glywed o sawl tro ers hynny. (Orffenes i mo'r llyfr gwaetha'r modd!)


Yn "Y Geiriadur Mawr", tudalen 1: aballu = to perish, to vanish. Hen gair ydy o.

Re: Aballu

PostioPostiwyd: Maw 27 Hyd 2009 8:38 pm
gan Mali
Diolch Hazel . 'Roeddwn i'n rhy ddiog i edrych yn y geiriadur . :wps: Felly mae 'na fath air ag aballu go iawn ! Yr un ' gwneud' oeddwn i'n holi amdano, sef yr un sydd yn golygu ' a phethau felly' / ac ati ayb... :winc:
emmareese ...dwi'n sylwi dy fod ti wedi gwahanu'r a oddi wrth weddill y gair. Er yn y llyfr Y Trydydd Peth , mae'r gwr yn dweud fod y gair yn un. Pôs bach arall i ni !
Un o aelodau eraill maes-e wedi ei ddefnyddio yma.


Gobeithio eich bod eich dwy yn cael diwrnod da . Mae'n 50F ac yn braf iawn yma .