Re: SAINSBURY'S A PEIRIANNAU HUNAN-DALU
Postiwyd:
Llun 02 Tach 2009 12:00 pm
gan Gowpi
Mae'n rhaid i fi gyfaddef ces i siom a'm synnu o fynd at y peiriant hunan wasanaeth yn S. Dinbych y Pysgod nad oedd y dewis ar gael, fues i'n chwilio am y botwm a daeth menyw lan ata' i yn meddwl bod fi'm imbicile a chynnig helpu, a finne'n nodi nad oedd y dewis Cymraeg ar gael: "Oh no, I can't speak Welsh, no Welsh here" - S. newydd sbon yw hi, y cyntaf yn sir Benfro. Bydd rhaid stico 'da Londis yno te...
Re: SAINSBURY'S A PEIRIANNAU HUNAN-DALU
Postiwyd:
Llun 02 Tach 2009 1:13 pm
gan Hogyn o Rachub
Yn bur ffodus, alla i ddim fforddio siopa yn Sainsburys beth bynnag!
Re: SAINSBURY'S A PEIRIANNAU HUNAN-DALU
Postiwyd:
Gwe 19 Tach 2010 11:08 am
gan William312
Sylwais am ambell i arwydd yn Tesco a gweld bod y Gymraeg ar rhai o'r prif arwyddion mewn ffont mwy na'r Saesoneg. Felly hefyd mewn canghennau o'r cydweithredol. Sainsbury's yw'r gwaethaf o'r prif archfarchnadoedd yn fy marn i ac ni ddylai unrhyw Gymro Cymraeg fynychu eu siopau.