Tudalen 1 o 3

Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Llun 16 Tach 2009 3:07 pm
gan SerenSiwenna
Hia pawb,

Dwi wethi'n sgwennu erthygl i'r Clawdd cw am 'nostalgia' ac es at y geiriadur ond dim ond un gair oedd e'n ei gynnig: Hiraeth...mae cysegair yn rhoi'r un beth, ond i fi ynde, mae'hiraeth' fwy i wneud hefo 'longing' ond o ni'n trio defnyddio 'nostalgia' yn y ffordd o ddisgrifio 'genre' ee cerddoriaeth, arlunwaith, llenyddiaeth sy'n ennyn y teimlad yma gennych.........unrhyw awgrymiadau o air arall allaf ei ddefnyddio? :P

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Llun 16 Tach 2009 11:56 pm
gan Mali
Gan fod llenyddiaeth , barddoniaeth a cherddoriaeth yn ymdrin a theimladau , mae'r elfen o hiraeth yn sicr o ddod i'r wyneb felly ; boed o'n hiraeth am berson , lle , amser neu achlysur. Felly , mae'r gair hiraeth / nostalgia / longing yn dderbynniol . Mae o'n air y medr pawb ymateb iddo.

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Maw 17 Tach 2009 8:46 am
gan sian
Swn i'n cytuno â SerenSiwenna nad yw hiraeth cweit yr un peth â nostalgia.

Mae "nostalgia" a "nostalja" yn digwydd ym mhroflen hir GPC 2006.

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 2:13 am
gan Hen Rech Flin
O'r Online etymology dictionary:
Nostalgia
1770, "severe homesickness" (considered as a disease), Mod.L. (cf. Fr. nostalgie, 1802), coined 1668 by Johannes Hofer as a rendering of Ger. heimweh, from Gk. nostos "homecoming" + algos "pain, grief, distress" (see -algia). Transferred sense (the main modern one) of "wistful yearning for the past" first recorded 1920.
.

Rwy'n cytuno a ChysGair mae hiraeth yw'r gair Cymraeg am y fath emosiwn, ond mae hiraeth yn air sydd wedi magu plu fel gair "unigryw" Gymraeg nad oes modd ei gyfieithu. Lol botas, o ran ffaith, wrth gwrs, ffug air o gyfnod Fictoria ydyw sy'n gysylltiedig â'r gair Saesneg LONG!

Ond mae yna wahaniaeth ystyr rhwng:

Rwyf yn hiraethu am fy nyddiau ysgol ac I am nostalgic about my school days.

Rwy/n ansicr be di'r gwahaniaeth ond yn ddi-os mae yna wahaniaeth!

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 8:57 am
gan sian
Hen Rech Flin a ddywedodd:Lol botas, o ran ffaith, wrth gwrs, ffug air o gyfnod Fictoria ydyw sy'n gysylltiedig â'r gair Saesneg LONG!


Sut wyt ti'n dweud hynny?
Rwy'n cofio dy fod wedi ei ddweud o'r blaen ryw dro - a dy fod wedi mynd reit flin pan wnes i amau a oedd yn wir - gan fy nghyhuddo i o gamddefnyddio ysgolheictod - neu rywbeth reit ddifrifol fel'na! :D

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae geiriau tebyg i "hiraeth" yn yr ieithoedd Celtaidd eraill -
Cernyweg: hyreth, hereth; Llydaweg: hiraezh; Hen Wyddeleg: sirecht - i gyd yn golygu "diffyg, tristwch, hiraeth" - mae GPC hefyd yn cynnwys llu o enghreifftiau yn mynd yn ôl i'r 13g. Mae yn dweud efallai bod cysylltiad â "long". Sut wyt ti'n dweud mai gair ffug o gyfnod Fictoria ydyw?

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 9:44 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n bersonol yn meddwl y byddai hiraeth a hiraethu yn gweithio'n iawn, er nad ydynt 100% yr un fath. Swni'n dueddol o ddweud bod hiraeth bron yn ddatblygiad ar y gair nostalgia - hynny ydi ei bod yn golygu'r un peth ond bod y teimlad rhywsut yn wahanol, efallai'n ddyfnach. Wn i ddim a fyddech chi'n cytuno, ond dyna'r argraff y mae'r geiriau yn ei chyfleu i mi.

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 11:27 am
gan sian
Dwi ddim mor siwr.

I mi, mae elfen o dristwch mewn "hiraeth" ond mae "nostalgia" yn rhoi gwên ar yr wyneb a theimlad cynnes yn y fynwes gan greu'r teimlad - "on'd oedden nhw'n ddyddiau da"

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 11:51 am
gan Hogyn o Rachub
Pan ti'n ei roi fel hynna, dwi'n dueddol o gytuno a dweud y gwir!

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 6:07 pm
gan SerenSiwenna
sian a ddywedodd:Swn i'n cytuno â SerenSiwenna nad yw hiraeth cweit yr un peth â nostalgia.

Mae "nostalgia" a "nostalja" yn digwydd ym mhroflen hir GPC 2006.


Beth yw mhroflen hir GPC 2006?

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 6:11 pm
gan SerenSiwenna
Hen Rech Flin a ddywedodd:O'r Online etymology dictionary:
Nostalgia
1770, "severe homesickness" (considered as a disease), Mod.L. (cf. Fr. nostalgie, 1802), coined 1668 by Johannes Hofer as a rendering of Ger. heimweh, from Gk. nostos "homecoming" + algos "pain, grief, distress" (see -algia). Transferred sense (the main modern one) of "wistful yearning for the past" first recorded 1920.
.

Rwy'n cytuno a ChysGair mae hiraeth yw'r gair Cymraeg am y fath emosiwn, ond mae hiraeth yn air sydd wedi magu plu fel gair "unigryw" Gymraeg nad oes modd ei gyfieithu. Lol botas, o ran ffaith, wrth gwrs, ffug air o gyfnod Fictoria ydyw sy'n gysylltiedig â'r gair Saesneg LONG!

Ond mae yna wahaniaeth ystyr rhwng:

Rwyf yn hiraethu am fy nyddiau ysgol ac I am nostalgic about my school days.

Rwy/n ansicr be di'r gwahaniaeth ond yn ddi-os mae yna wahaniaeth!


Ha ia dyna'r trafferth sy gen i, alla i ddim rhoi'n bys ar y difiniad a pam nad yw hiraeth yn iawn...dwi'n hoffi'r "wistful yearning' uchod, y syniad o 'oes aur' a'r fondess sy ganddon ni amdanni ynde megis Tiffany lamps, patchwork quilts, streon am yr hen dyddiau, lluniau o'r hen ddyddiau, cerddoriaeth werin ayyb