Tudalen 2 o 3

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 6:13 pm
gan SerenSiwenna
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi'n bersonol yn meddwl y byddai hiraeth a hiraethu yn gweithio'n iawn, er nad ydynt 100% yr un fath. Swni'n dueddol o ddweud bod hiraeth bron yn ddatblygiad ar y gair nostalgia - hynny ydi ei bod yn golygu'r un peth ond bod y teimlad rhywsut yn wahanol, efallai'n ddyfnach. Wn i ddim a fyddech chi'n cytuno, ond dyna'r argraff y mae'r geiriau yn ei chyfleu i mi.



Hmm, diddorol iawn. O ni hollol yn erbyn "Hiraeth" pan nes i gychwyn y llinyn yma, ond dwi'n ail-ystyried rwan.."Y genre o hiraeth"?

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Gwe 20 Tach 2009 6:17 pm
gan SerenSiwenna
sian a ddywedodd:Dwi ddim mor siwr.

I mi, mae elfen o dristwch mewn "hiraeth" ond mae "nostalgia" yn rhoi gwên ar yr wyneb a theimlad cynnes yn y fynwes gan greu'r teimlad - "on'd oedden nhw'n ddyddiau da"


I'r dim, dyna'r union teimlad dwi'n chwilio am :P Felly ella adaptio Hiraeth sy ei hangen..."Hiraeth-felys"? "Felys-hiraeth"

Syniadau eraill yn cynnwys: Coffadwriaeth, coffad (hefo to bach dros yr 'a') sy'n cyfieuthiad o 'rememberance'. Sgwn i os fyddai "Coffad-felys"?

Dyw mae'n anodd tydi, diddorol iawn trafod y peth hefo chi gyd ddo! :D

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Sad 21 Tach 2009 4:37 am
gan Hen Rech Flin
sian a ddywedodd:
Sut wyt ti'n dweud hynny?
Rwy'n cofio dy fod wedi ei ddweud o'r blaen ryw dro - a dy fod wedi mynd reit flin pan wnes i amau a oedd yn wir - gan fy nghyhuddo i o gamddefnyddio ysgolheictod - neu rywbeth reit ddifrifol fel'na! :D

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae geiriau tebyg i "hiraeth" yn yr ieithoedd Celtaidd eraill -
Cernyweg: hyreth, hereth; Llydaweg: hiraezh; Hen Wyddeleg: sirecht - i gyd yn golygu "diffyg, tristwch, hiraeth" - mae GPC hefyd yn cynnwys llu o enghreifftiau yn mynd yn ôl i'r 13g. Mae yn dweud efallai bod cysylltiad â "long". Sut wyt ti'n dweud mai gair ffug o gyfnod Fictoria ydyw?


Does dim atgof gennyf o fod yn arbennig o flin efo ti, Siân, parthed unrhyw bwnc. Ar y cyfan pan fyddem yn anghytuno rwyf yn dueddol o dderbyn dy ddoethineb a chydnabod bod dy grap ar yr iaith yn well nag un hen Gymro ail-iaith anwybodus fel fi!

O ran myth yr hiraeth anghyfieithiadwy gellir ei ddyddio yn union i Chwefror 29 (blwyddyn naid!) 1940 a'r rhaglen Welsh Rarebit, pan ganwyd "We'll Keep a Welcome" am y tro cyntaf a chlywyd yr esgus bod y llinell olaf ond un yn ddweud "We'll kiss away each hour of hiraeth" yn hytrach na'r Saesneg "longing" oherwydd bod ystyr y gair Cymraeg yn unigryw.

Mae'n debyg mae geiriadur yr Athro Daniel Sylvan Evans o’r 1870au oedd y gyntaf i gyfieithu Hiraeth fel Longing emosiynol, cyn hynny roedd hiraeth yn golygu dim byd amgen nag amser maith anemosiynol.

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Sad 21 Tach 2009 4:20 pm
gan sian
Hen Rech Flin a ddywedodd:Does dim atgof gennyf o fod yn arbennig o flin efo ti, Siân, parthed unrhyw bwnc. Ar y cyfan pan fyddem yn anghytuno rwyf yn dueddol o dderbyn dy ddoethineb a chydnabod bod dy grap ar yr iaith yn well nag un hen Gymro ail-iaith anwybodus fel fi!

O ran myth yr hiraeth anghyfieithiadwy gellir ei ddyddio yn union i Chwefror 29 (blwyddyn naid!) 1940 a'r rhaglen Welsh Rarebit, pan ganwyd "We'll Keep a Welcome" am y tro cyntaf a chlywyd yr esgus bod y llinell olaf ond un yn ddweud "We'll kiss away each hour of hiraeth" yn hytrach na'r Saesneg "longing" oherwydd bod ystyr y gair Cymraeg yn unigryw.

Mae'n debyg mae geiriadur yr Athro Daniel Sylvan Evans o’r 1870au oedd y gyntaf i gyfieithu Hiraeth fel Longing emosiynol, cyn hynny roedd hiraeth yn golygu dim byd amgen nag amser maith anemosiynol.


Wir i ti, fe fuest ti'n flin iawn - hollol annhebyg i'r hen rech addfwyn arferol :lol:
Biti na allwn i ei ffeindio yn yr archifau. Does dim golwg ohono with chwilio a dwi ddim yn cofio beth oedd teitl yr edefyn.
Beth bynnag dw i wedi hen faddau i ti. :D :D

Sut wyt ti'n esbonio "hiraeth yssydd arnaf am owain, a golles y gennyf meint teirblynedd" o Lyfr Coch Hergest yn y 14eg ganrif te?
Neu "Hiraeth, nid ymddiheuraf, dan fy mron am hinon haf" - hefyd o'r 14eg ganrif?
Mae'r rhain yn swnio'n eithaf emosiynol i mi :lol:

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Llun 23 Tach 2009 1:26 pm
gan SerenSiwenna
Dwi mewn penbleth a dwi angen cyngor. Fy syniadau hyd yn hyn i'w ddefnyddio:

1. Hiraeth
2. Hiraeth-felys
3. Felys-hiraeth
4. Coffad
5. Coffad-felys (to bach dros yr a)
6. Felys-Coffad (to bach drosa yr a)
7. Nostalgia
8. Nostajia
9. Oes-aur

Be fysa chi maeswyr yn ei ddefnyddio/ yn ddebygol o ddeall pe bae chi yn ei weld mewn erthygl?

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Llun 23 Tach 2009 4:53 pm
gan Hazel
"Coffad" neu darddair (derivative) ohono.

Re: Nostalgia - chwilio am air (Proflen GPC)

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 2:03 pm
gan Gwyddno
SerenSiwenna a ddywedodd:Beth yw mhroflen hir GPC 2006?


Cyfres o ffeiliau PDF o Eiriadur Prifysgol Cymru. Maen nhw ar gael i'w hislwytho ar y we (chwiliais am "Proflen Hir GPC" a chael fy nghyfeirio at wefan PDFXP.com). Yn anffodus, does dim manylion am darddiad geiriau yn y broflen ond mae'n handi iawn serch 'ny.

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 5:43 pm
gan Seonaidh/Sioni
Hiraeth - Longing - yng Ngaeleg yr Alban, "fadalachd" (mae "fada" yn golygu "hir"). Am "nostalgia", mae gan yr Aeleg "cianalachas", o "cianail" (athrist, gofidus ayyb), efallai fel "keening" yn y Saesneg. Ond nid felly "nostalgia" i mi y dyddiau'ma. Er mwyn cyfleu bron yn union a olygir gan "nostalgia" yn y Saesneg, rhaid wrth rywbeth fel "nostalja" swn i'n credu. Er bod y fath air yn gas gen'i.

Re: Nostalgia - chwilio am air (Proflen GPC)

PostioPostiwyd: Llun 15 Chw 2010 5:25 pm
gan SerenSiwenna
Gwyddno a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Beth yw mhroflen hir GPC 2006?


Cyfres o ffeiliau PDF o Eiriadur Prifysgol Cymru. Maen nhw ar gael i'w hislwytho ar y we (chwiliais am "Proflen Hir GPC" a chael fy nghyfeirio at wefan PDFXP.com). Yn anffodus, does dim manylion am darddiad geiriau yn y broflen ond mae'n handi iawn serch 'ny.


Diddorol iawn, diolch am rhoi hynna fan hyn...fydda i yn ei siecio yn y dyfodol pan yn ymchwilio :-)

Re: Nostalgia - chwilio am air

PostioPostiwyd: Llun 15 Chw 2010 5:29 pm
gan SerenSiwenna
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Hiraeth - Longing - yng Ngaeleg yr Alban, "fadalachd" (mae "fada" yn golygu "hir"). Am "nostalgia", mae gan yr Aeleg "cianalachas", o "cianail" (athrist, gofidus ayyb), efallai fel "keening" yn y Saesneg. Ond nid felly "nostalgia" i mi y dyddiau'ma. Er mwyn cyfleu bron yn union a olygir gan "nostalgia" yn y Saesneg, rhaid wrth rywbeth fel "nostalja" swn i'n credu. Er bod y fath air yn gas gen'i.



Nostaljia, ie, mae'n wrth i'r graen i ni tydi i dderbyn air Saesneg wedi ei Cymreigio...mae'n rhoi fwy o amunition iddynt dweud "Well there's so much English in the Welsh language anyway" pan does na ddim mewn gwirionedd...esiampl yw'r episode o QI pan wnaethon nhw dweud "Ironing board in Welsh is 'Board smooth-io', gan fethu'r ffaith mai 'table' yw 'bwrdd' nid 'board' ac 'ironing' yw smwddio, nid 'smoothing out' grrrrrrrrr :drwg: