Hen Rech Flin a ddywedodd:Does dim atgof gennyf o fod yn arbennig o flin efo ti, Siân, parthed unrhyw bwnc. Ar y cyfan pan fyddem yn anghytuno rwyf yn dueddol o dderbyn dy ddoethineb a chydnabod bod dy grap ar yr iaith yn well nag un hen Gymro ail-iaith anwybodus fel fi!
O ran myth yr hiraeth anghyfieithiadwy gellir ei ddyddio yn union i Chwefror 29 (blwyddyn naid!) 1940 a'r rhaglen Welsh Rarebit, pan ganwyd "We'll Keep a Welcome" am y tro cyntaf a chlywyd yr esgus bod y llinell olaf ond un yn ddweud "We'll kiss away each hour of hiraeth" yn hytrach na'r Saesneg "longing" oherwydd bod ystyr y gair Cymraeg yn unigryw.
Mae'n debyg mae geiriadur yr Athro Daniel Sylvan Evans o’r 1870au oedd y gyntaf i gyfieithu Hiraeth fel Longing emosiynol, cyn hynny roedd hiraeth yn golygu dim byd amgen nag amser maith anemosiynol.
Wir i ti, fe fuest ti'n flin iawn - hollol annhebyg i'r hen rech addfwyn arferol
Biti na allwn i ei ffeindio yn yr archifau. Does dim golwg ohono with chwilio a dwi ddim yn cofio beth oedd teitl yr edefyn.
Beth bynnag dw i wedi hen faddau i ti.
Sut wyt ti'n esbonio "hiraeth yssydd arnaf am owain, a golles y gennyf meint teirblynedd" o Lyfr Coch Hergest yn y 14eg ganrif te?
Neu "Hiraeth, nid ymddiheuraf, dan fy mron am hinon haf" - hefyd o'r 14eg ganrif?
Mae'r rhain yn swnio'n eithaf emosiynol i mi