Tudalen 1 o 1

mabolgampau

PostioPostiwyd: Maw 17 Tach 2009 3:39 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
helo ers talwm.
dwi'n desbret am air sy'n cyfleu chwaraeon / mabolgampau / athletau... rwbath i'r cyfeiriad yma, heb ddefnyddio 'run o'r geiria' yma. ma'n stori hir pam, ond o'n i jyst yn meddwl tybad fasa 'na rywun yn gwbod am air hynafol, neu newydd hyd yn oed, sy' ddim yn cael 'i ddefnyddio gymaint a 'rhain. wedi trio pencampau, campau, pencampwrthiaeth, ond ma' nhw'n newid yr ystyr ormod braidd. oes 'na eiria' tafodiaethol sy' ddim yn cael eu defnyddio drw' gymru ella? neu air oedd rhieni / teidia a neina neu blant, hyd yn oed, yn ei ddefnyddio nad yda ni mor gyfarwydd hefo nhw...?
gwerthfawrogi pob help! diolch x

Re: mabolgampau

PostioPostiwyd: Maw 17 Tach 2009 3:45 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi ddim yn siwr o dy gyd-destun, ond tybed fyddai rhywbeth fel gornest(au) yn ei gyfleu?

Re: mabolgampau

PostioPostiwyd: Maw 17 Tach 2009 3:57 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
gair am chwaraeon dwisho mewn gwirionedd. ma' gornest yn cyfleu ffeit dydi? caria 'mlaen...! (diolch)