Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 20 Tach 2009 6:21 pm

Hey pawb, un arall i chi...

Dwi wrth fy modd hefo cyfres "True Blood" ac yn sidro sgwennu erthygl am genre y 'Vampire'...ond dim ond 'Sugnwyr gwaed' ges i fel cyfieuthiad...braidd yn discriptive yn hytrach na context-driven o ni yn teimlo...unrhyw syniadau/ cynigion eraill? :P
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Postiogan Duw » Sad 21 Tach 2009 12:44 am

Wel roedd "Fampir Hip-Hop" 'da ni 'ma ar y maes. Mae'r 'Meirw Byw' wedi'i ddefnyddio, er gall hwn gael ei alw ar bob math o ychs y nos. Yn bersonol dwi'm gweld dim yn bod ar 'Fampir', wedi'r cyfan, gair a fenthyciwyd o'r Bwlgareg (vampir) ac yn wreiddiol o'r Slafeg 'obyri' (yn ol be dwi'n deall). Eto, cystal â dwi'n gwybod, 'stim cyfeiriad at 'fampir' yng Nghymru cyn iddo gael ei son amdano mewn llyfrau poblogaidd y ddeunawfed ganrif.

Gair benthyg, ond benthyg oddi wrth pwy?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Postiogan SerenSiwenna » Llun 23 Tach 2009 1:30 pm

Duw a ddywedodd:Wel roedd "Fampir Hip-Hop" 'da ni 'ma ar y maes. Mae'r 'Meirw Byw' wedi'i ddefnyddio, er gall hwn gael ei alw ar bob math o ychs y nos. Yn bersonol dwi'm gweld dim yn bod ar 'Fampir', wedi'r cyfan, gair a fenthyciwyd o'r Bwlgareg (vampir) ac yn wreiddiol o'r Slafeg 'obyri' (yn ol be dwi'n deall). Eto, cystal â dwi'n gwybod, 'stim cyfeiriad at 'fampir' yng Nghymru cyn iddo gael ei son amdano mewn llyfrau poblogaidd y ddeunawfed ganrif.

Gair benthyg, ond benthyg oddi wrth pwy?



Diddorol iawn Duw, diolch am hwn. Ie, o ni'n meddwl fod 'sugnwyr gwaed' braidd yn flat ond dyna oedd y geiriadur yn ei gynnig. Yna neshi weld hysbyseb llyfr dros y penwythnos am 'fampirod...' rhyw lyfr i blant o olwg y cyfyr. Cytuno am y meirw byw, rhu vague. Ia, mae'n air wedi ei fenthyg eniwe felly mae 'Fampir' yn dderbynniol - ai 'fampirod' yw'r ffordd cywir i siarad amdannynt fel collective? Hoffi'r 'obyri'.......
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Postiogan Duw » Llun 23 Tach 2009 10:44 pm

Fampirod weden i. Er wylle wede rhai 'famprod'. Dwi ddim yn lico hwn shwt. Mae fampiiirod yn swno'n well - rhywbeth annifyr amdano. Ma famprod yn swno fel penbwl neu rhywbeth felna i mi. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 25 Tach 2009 10:59 pm

Ay. Bydd "sugnwyr gwaed" yn cyfateb i'r Saesneg "blood-suckers", swn i'n credu, sy ddim cweit yn "vampires". Swn i'n mynd efo "fampirod".
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Sugnwyr gwaed - ddim cweit yn Vampire nadi?

Postiogan SerenSiwenna » Gwe 27 Tach 2009 2:57 pm

Cytuno. Diolch i chi gyd am agor fy llegid....fydd raid ymgyrchu i gael yr academi i newid ei air!
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron