Tudalen 1 o 1

a neu ac

PostioPostiwyd: Llun 14 Rhag 2009 10:00 am
gan aderynglas
Dwi wedi drysu - dysgais rhoi ac o flaen llefarydd on dwi wedi sylwi ar sawl engraifft o ..a Ioan , a Iola, a Iona ac ati. Ar yr un pryd mae rhai pobol yn ysgrifennu ...ac Ioan, ...ac Iola ayyb. Pa un sy'n gywir?

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Llun 14 Rhag 2009 9:30 pm
gan Seonaidh/Sioni
Hmm...Mae'r gwningen wedi bwyta rhywbeth melys...Mae hynny yn dibynnu. Petaswn i'n sgwennu'n ffurfiol, swn i'n deud "ac Ioan" ac ati ac dwi'n meddwl fod hyn yn "iawn".Ond yn anffurfiol, wel, pwy sy'n malio? Y peth pwysig ydy cael dy ddallt.

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Maw 15 Rhag 2009 3:51 pm
gan sian
aderynglas a ddywedodd:Dwi wedi drysu - dysgais rhoi ac o flaen llefarydd on dwi wedi sylwi ar sawl engraifft o ..a Ioan , a Iola, a Iona ac ati. Ar yr un pryd mae rhai pobol yn ysgrifennu ...ac Ioan, ...ac Iola ayyb. Pa un sy'n gywir?


Mae dau fath o "i" ac "w" - "i" lafariad ac "i" gytsain

"i" lafariad - inc, Idris,
"w" lafariad - wrn, wps, ŵy, wythnos

"i" gytsain - iâr, iet
"w" gytsain, watsh, wal

"ac"/yr" sydd o flaen "i" lafariad ac "w" lafariad - ac Idris, ac wythnos, yr inc, yr ŵy

"ac/yr" sydd o flaen "i" gytsain - gwlad ac iaith, dyfodol yr iaith

"a/y" sydd o flaen "w" gytsain - straben y watsh, ffens a wal

Efallai, achos bod pobl yn gwybod mai "a/y" sydd o flaen "w" gytsain, eu bod nhw'n meddwl mai "a/y" sydd o flaen "i" gytsain hefyd.

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Mer 16 Rhag 2009 4:30 pm
gan ffwcio dy fam
un a dau a thri a phedwar a phump a chwech a saith ag wyth a naw a deg ac unarddeg.be ffwc dir otsh?rioed di bod yn ffan o ramadeg os dwi'n onast. dwi'n meddwl de....os fedri di ddalld be mar person yn drio'i ddeud de... dior otsh sud ma'r person yn i ddeud o. ffoc.mi. mai'n braf cal deffro pan mai'n twllu weithia. edrychwch ar ol EICH GILYDD. dwi'n meddwl huna o waelod calon. heddychiaeth

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Iau 17 Rhag 2009 5:15 pm
gan Duw
Diddorol. Beth am Yr Wyddor neu Y Wyddor - yn ol diffiniad Sian - Y Wyddor? Wedi gweld Yr Wyddor sawl gwaith.

Beth am gwyneb? Wyneb yw'r gair yndefe. Y wyneb (weeneb) neu yr wyneb (ooeeneb)?? :?:

@FF-D-F
Os nac oes ots am Ddefnydd yr Iaith (gramadeg yn yr achos hwn), pam ddiawl oes angen gweud sylw ar y seiad? Roedd y cwestiwn yn un dilys ac roedd yr ateb wedi egluro'r sefyllfa i'r rheiny ohonom sydd heb syniad. Diolch Sian - rwyt wedi cyfoethogi fy nealltwriaeth. :D

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Iau 17 Rhag 2009 8:03 pm
gan sian
Duw a ddywedodd:Diddorol. Beth am Yr Wyddor neu Y Wyddor - yn ol diffiniad Sian - Y Wyddor? Wedi gweld Yr Wyddor sawl gwaith.

Beth am gwyneb? Wyneb yw'r gair yndefe. Y wyneb (weeneb) neu yr wyneb (ooeeneb)?? :?:



Mae 'na rai geiriau - fel "wyddor" a "wyneb" a "wylan" lle mae'r "wy" 'i fod' i swnio fel "ŵy" (mae iâr yn ei ddodwy) - ac felly "yr wyddor", "yr wyneb", "yr wylan" ond mae pobol yn tueddu i ddweud nhw fel "wi" (wee) - ac felly, mae'n troi'n "w" gytsain, ac yn "y wyddor/wyneb/wylan"

Mae'r gân "Cofio dy Wyneb" yn ddiddorol. Mae Mynediad am Ddim yn canu "Cofio dy ŵyneb ..." a Bryn Fôn yn canu "Cofio dy wîneb" :D

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Iau 17 Rhag 2009 10:28 pm
gan aderynglas
Diolch yn fawr am yr atebion - yn enwedig sylwadau Sian

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Iau 17 Rhag 2009 10:31 pm
gan Duw
DIolch am glirio hwnna lan Sian! :D

Re: a neu ac

PostioPostiwyd: Gwe 18 Rhag 2009 12:56 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwisho i sian ddod i fyw ar f'ysgwydd ac egluro'r rheola' i mi bob dydd yn fy swyddfa. waw! difaru peidio gwrando'n 'rysgol wan... :?