Aelod Llipa a ddywedodd:Yn ôl yr erthygl am Derek yn Golwg wythnos yma, mae ambell wyliwr yn cwyno am "ymddygiad" Mr Brockway tra'n darlledu'r tywydd, am feiddio defnyddio ymadroddion Cymraeg!
Pa mor drist yw hynny? Mwy o reswm i sgwennu ato!
Trist? Blydi anhygoel! Fasai hynny ddim yn digwydd yn Lloegr! Er enghraifft, unwaith ddaru fi bod yn Lloegr ar 1/3 a dyna Sian Lloyd (cyn iddi ddod yn wedjyn i Lembit Opik) wrth ddarllen rhagolwg y tywydd ac yn dechrau gyda rhywbeth fel "Bore da" os cofia' i'n iawn. Hyd am wn i, doedd na ddim yr un gwyn.
Mae'r un peth yn digwydd yma yn yr Alban. Mae Cyngor yr Ucheldiroedd eisiau codi arwyddion ffordd dwyieithog - ac mae na gynghorydd o Gaithness - John neu Iain Rosie - yn ffyrnig yn erbyn hyn (gweler John O Groat Journal ac ati). Ond beth mae pobl Lloegr yn feddwl? Iddyn nhw, mae'n dda gweld arwyddion yn cynnwys Gaeleg - sdim ots am ddallt te beidio, rhan o brofiad ymweld a'r Alban ydy o. Ac, felly, yn rhoi hwb i dwristiaeth - trist efallai, ond rhaid, yn anffodus.
Beth maen nhw'n deud am broffwydi yn eu gwledydd eu hunain?