Tudalen 1 o 2
Derek Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Llun 14 Rhag 2009 11:27 pm
gan Aelod Llipa
Ydi hi'n hen bryd i Derec Brockway dderbyn clôd am ei ymdrechion i hyrwyddo'r Gymraeg tra'n cyflwyno'r tywydd ar BBC Wales? Does yna'r un cyflwynydd arall yn dweud gair o Gymraeg, ond dwi wedi sylwi fod Mr Brockway yn defnyddio dywediad Cymraeg bron bob tro erbyn hyn. Dwi'n ffan mawr o'r Gwr erbyn hyn
Be dach chi'n feddwl?
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Maw 15 Rhag 2009 1:49 am
gan Ray Diota
shwmae
cytuno! ma'r boi werth y byd!
nos da
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Maw 15 Rhag 2009 7:12 pm
gan bartiddu
Ma Jason Mohammed whare teg iddo 'fyd.
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Iau 31 Rhag 2009 12:32 am
gan bed123
Cyntuno, mae Derec yn dangos esiampl dda i'r gweddill! Wnes i gyfarfod y gwr ar maes eisteddfod llynedd, a dechreuodd ei sgwrs yn Gymraeg, gret o ddyn.
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Iau 31 Rhag 2009 9:25 am
gan dewi_o
Da iawn Derec, mae fe wedi gwneud ymdrech i ddysgu'r iaith ac yn gwneud ymdrech i'w ddefnyddio gymaint ac mae e'n gallu. Fydda'i pob tro'n gwylio newyddion lleol y BBC na'r sothach ar HTV.
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Iau 31 Rhag 2009 2:13 pm
gan Duw
Arwr.
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Gwe 01 Ion 2010 2:48 pm
gan Chickenfoot
Ydi Derek yn gallu rheoli corff Behnaz the sexy replacement? Mae'i mannerisms hi yn debyg iawn i rai fo e.e high pressure hand gestures ayyb.
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Gwe 01 Ion 2010 4:38 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae'n dda bod yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg ond oes 'na rywun arall sy'n ffendio fo, wel, jyst mbach yn annoying?
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Llun 04 Ion 2010 12:51 pm
gan adamjones416
Sut ar wyneb y ddaear mae'n annoying? Yffach does dim plesio rhai pobl nacoes. O leia mafe'n ymdrechu i rhoi naws Gymreigaidd i'r tywydd, os buasai pob un yn defnyddio cyn lleied o Gymraeg fel y mae e base'r pethe bychain yn codi ymwybyddiaeth yr iaith yn fwy na hen Ddeddf iaith ddwl a darn o sgrifen sydd mewn gwirionedd yn golygu dim yn statudol. Ware teg 'ti Derec,
Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?
Postiwyd:
Maw 05 Ion 2010 12:28 am
gan Carlos Tevez
cytuno - mae derec yn seren. Mae'r ffaith ei fod ond yn deud "Swmai" a "nos da" yn gam mawr--gobeithio bod vincent kane yn gwylio BBC Wales today hefyd..