Tudalen 2 o 2

Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Iau 07 Ion 2010 1:44 pm
gan Chwadan
"Cadwch yn gynnes!" gawson ni ganddo fo nithiwr :D

Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Iau 07 Ion 2010 10:37 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi'n cofio John Meredith, gohebydd y BBC yn y canolbarth, yn dweud wrtho fi unwaith ei fod e'n meddwl y dylai pobl gael siarad yn Gymraeg ar Wales Today - wedyn fod nhw i roi troslais Saesneg neu is-deitlau yn yr un modd a ma nhw'n neud pan maen nhw'n cyfweld rhyw arweinydd o'r Aifft neu ble bynnag ar y 6 O' Cloc news yn Llundain. Byddai hynny wedyn yn gwneud y Cymru di-Gymraeg yn fwy ymwybodol fod yna ddwy-iaith yn cael ei defnyddio dydd i ddydd gan bobl yng Nghymru. Dwi'n meddwl fod hwn yn syniad da iawn.

Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Iau 07 Ion 2010 10:40 pm
gan Aelod Llipa
Cytuno eto!
Mi ddylen ni gyd sgwennu neges ato yn y BBC yn diolch am ei ymdrechion a'r esiampl dda yn hyrwyddo'r iaith, yn y gobaith o gynyddu ei ddefnydd o'r iaith yn ystod 2010! :D

Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ion 2010 1:29 pm
gan Chickenfoot
Chwadan a ddywedodd:"Cadwch yn gynnes!" gawson ni ganddo fo nithiwr :D


Tasa Claire Summers yn dweud hynna - a cynnig i'n nghadw'n gynnes, sa hynna 'di bod yn ddigon cwl. Ond eto, i fi yn uniongyrchol Claire Summers yn darlledu bob tro...'Sdim ots gen i be dwedodd y llys.

Re: Derec Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ion 2010 9:07 pm
gan Aelod Llipa
Yn ôl yr erthygl am Derek yn Golwg wythnos yma, mae ambell wyliwr yn cwyno am "ymddygiad" Mr Brockway tra'n darlledu'r tywydd, am feiddio defnyddio ymadroddion Cymraeg! :drwg: Pa mor drist yw hynny? Mwy o reswm i sgwennu ato!

Re: Derek Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Iau 21 Ion 2010 3:20 pm
gan Gowpi
Anhygoel a thrist iawn! Doedd dim gair yn y Gymraeg gydag e nithwr... mae DB yn chwa o awyr iach ar y teledu

Re: Derek Brockway yn Cymreigio'r BBC?

PostioPostiwyd: Iau 21 Ion 2010 11:43 pm
gan Seonaidh/Sioni
Aelod Llipa a ddywedodd:Yn ôl yr erthygl am Derek yn Golwg wythnos yma, mae ambell wyliwr yn cwyno am "ymddygiad" Mr Brockway tra'n darlledu'r tywydd, am feiddio defnyddio ymadroddion Cymraeg! :drwg: Pa mor drist yw hynny? Mwy o reswm i sgwennu ato!

Trist? Blydi anhygoel! Fasai hynny ddim yn digwydd yn Lloegr! Er enghraifft, unwaith ddaru fi bod yn Lloegr ar 1/3 a dyna Sian Lloyd (cyn iddi ddod yn wedjyn i Lembit Opik) wrth ddarllen rhagolwg y tywydd ac yn dechrau gyda rhywbeth fel "Bore da" os cofia' i'n iawn. Hyd am wn i, doedd na ddim yr un gwyn.

Mae'r un peth yn digwydd yma yn yr Alban. Mae Cyngor yr Ucheldiroedd eisiau codi arwyddion ffordd dwyieithog - ac mae na gynghorydd o Gaithness - John neu Iain Rosie - yn ffyrnig yn erbyn hyn (gweler John O Groat Journal ac ati). Ond beth mae pobl Lloegr yn feddwl? Iddyn nhw, mae'n dda gweld arwyddion yn cynnwys Gaeleg - sdim ots am ddallt te beidio, rhan o brofiad ymweld a'r Alban ydy o. Ac, felly, yn rhoi hwb i dwristiaeth - trist efallai, ond rhaid, yn anffodus.

Beth maen nhw'n deud am broffwydi yn eu gwledydd eu hunain?