Tudalen 1 o 2

Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Sad 26 Rhag 2009 12:06 pm
gan Hazel
Ogwydd, beth yw "Swydd Efrog"? Diolch.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Sad 26 Rhag 2009 12:32 pm
gan sian
Swydd Efrog = Yorkshire

"Swydd" yw'r gair a ddefnyddir am "sir" yn Lloegr yn aml. "Swydd Amwythig" etc

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Sad 26 Rhag 2009 1:01 pm
gan Hazel
Diolch i chi.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Sul 27 Rhag 2009 10:31 pm
gan Seonaidh/Sioni
Gwir, wrth gwrs! Ond beth am "Yr hyn sy raid i froga electronig ei wneud"?

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 1:49 pm
gan Gwyddno
sian a ddywedodd:Swydd Efrog = Yorkshire

"Swydd" yw'r gair a ddefnyddir am "sir" yn Lloegr yn aml. "Swydd Amwythig" etc


Cytuno â Siân, ond eisiau ychwanegu bod rhai yn dal i sôn am 'Sir Amwythig' am eu bod yn ystyried yr ardal honno'n rhan o 'diroedd y meddiant', h.y. yn rhan o Gymru sydd wedi'i meddiannu gan Loegr.

'Swydd' a ddefnyddir wrth sôn am unrhyw sir y tu allan i Gymru, h.y. Sir Gâr/Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog ond Swydd Caer, Swydd Efrog, Swydd Inverness ac ati, neu gellir defnyddio enw'r iaith "leol" (sef iaith yr wlad lle mae'r ardal) e.e. Inbhir Nis, An Clár, Pen ar Bed, Porthpyran.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 3:15 pm
gan Hazel
Mae hynny'n dda gwybod, Gwyddno. Diolch.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 8:14 pm
gan Jon Sais
Heb anghofio am 'Sir Caerhirfryn' sy'n rhan o'r Hen Ogledd.
8)

Gwyddno a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Swydd Efrog = Yorkshire

"Swydd" yw'r gair a ddefnyddir am "sir" yn Lloegr yn aml. "Swydd Amwythig" etc


Cytuno â Siân, ond eisiau ychwanegu bod rhai yn dal i sôn am 'Sir Amwythig' am eu bod yn ystyried yr ardal honno'n rhan o 'diroedd y meddiant', h.y. yn rhan o Gymru sydd wedi'i meddiannu gan Loegr.

'Swydd' a ddefnyddir wrth sôn am unrhyw sir y tu allan i Gymru, h.y. Sir Gâr/Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog ond Swydd Caer, Swydd Efrog, Swydd Inverness ac ati, neu gellir defnyddio enw'r iaith "leol" (sef iaith yr wlad lle mae'r ardal) e.e. Inbhir Nis, An Clár, Pen ar Bed, Porthpyran.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 8:24 pm
gan Gwyddno
Ie, yr un egwyddor yn union: cyfeirio at 'diroedd y meddiant' fel pe baen nhw'n dal yn rhan o Gymru.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Gwe 12 Chw 2010 9:26 am
gan Jon Sais
Ond wrth gwrs roedd y cyfan ar un adeg yn eiddo Cymreig a Chymraeg. Yn ol llyfr o'r enw 'Celtic Voices English Places' ( ISBN 1 900289 41) mae'na dros 2000 o enwau lleoedd yn Lloegr sy'n tarddu o'r hen iaith Brythoneg.

5
Gwyddno a ddywedodd:Ie, yr un egwyddor yn union: cyfeirio at 'diroedd y meddiant' fel pe baen nhw'n dal yn rhan o Gymru.

Re: Swydd Efrog

PostioPostiwyd: Gwe 12 Chw 2010 9:31 am
gan Gwyddno
Jon Sais a ddywedodd:Ond wrth gwrs roedd y cyfan ar un adeg yn eiddo Cymreig a Chymraeg. Yn ol llyfr o'r enw 'Celtic Voices English Places' ( ISBN 1 900289 41) mae'na dros 2000 o enwau lleoedd yn Lloegr sy'n tarddu o'r hen iaith Brythoneg.


Ydy'r ffigur hwnnw'n cynnwys Cernyw? Mae'n swnio braidd yn isel os ydy.