Cymedrolwr: Gwen
sian a ddywedodd:Swydd Efrog = Yorkshire
"Swydd" yw'r gair a ddefnyddir am "sir" yn Lloegr yn aml. "Swydd Amwythig" etc
Gwyddno a ddywedodd:sian a ddywedodd:Swydd Efrog = Yorkshire
"Swydd" yw'r gair a ddefnyddir am "sir" yn Lloegr yn aml. "Swydd Amwythig" etc
Cytuno â Siân, ond eisiau ychwanegu bod rhai yn dal i sôn am 'Sir Amwythig' am eu bod yn ystyried yr ardal honno'n rhan o 'diroedd y meddiant', h.y. yn rhan o Gymru sydd wedi'i meddiannu gan Loegr.
'Swydd' a ddefnyddir wrth sôn am unrhyw sir y tu allan i Gymru, h.y. Sir Gâr/Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog ond Swydd Caer, Swydd Efrog, Swydd Inverness ac ati, neu gellir defnyddio enw'r iaith "leol" (sef iaith yr wlad lle mae'r ardal) e.e. Inbhir Nis, An Clár, Pen ar Bed, Porthpyran.
Gwyddno a ddywedodd:Ie, yr un egwyddor yn union: cyfeirio at 'diroedd y meddiant' fel pe baen nhw'n dal yn rhan o Gymru.
Jon Sais a ddywedodd:Ond wrth gwrs roedd y cyfan ar un adeg yn eiddo Cymreig a Chymraeg. Yn ol llyfr o'r enw 'Celtic Voices English Places' ( ISBN 1 900289 41) mae'na dros 2000 o enwau lleoedd yn Lloegr sy'n tarddu o'r hen iaith Brythoneg.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 18 gwestai