Tudalen 1 o 2

Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Llun 11 Ion 2010 11:44 am
gan SerenSiwenna
Helo maeswyr,

Nawr te, dwi wrthi'n cysyniadoli erthygl am y genre megis Twin Peaks, Midsomer Murder a hynny a canwyd y Doors amdanno...y Seedy Underbelly....oes yna ffordd o ddeud hyn yn y Gymraeg...neu oes cynnigion gan unrhywun?

Hefyd, Oes yna esiamplau o lyfrau Cymraeg yn trin y pwnc?

:D

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Iau 14 Ion 2010 12:40 pm
gan SerenSiwenna
Tan-fol amheus? :lol:

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Iau 14 Ion 2010 1:29 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n yn siwr o'r cyd-destun i fod yn onest, ond tybed a fyddet ti'n gallu defnyddio rhywbeth fel 'dan yr wyneb' - rhywbeth fel 'hanes sinistr o dan yr wyneb' math o beth?

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Iau 14 Ion 2010 4:13 pm
gan SerenSiwenna
Hia Hogyn y Rachub,

Ia, y 'Rhywbeth dan y wyneb' sy ddim yn matchio'r wyneb ynde.......ee Mae midsomer muder yn llawn pentrefi pictiwresg, ideal a mae pawb i'w weld yn hapus ac yn byw bywyd delfrydol, ond dan y wyneb da chi'n ffeindio 'hotbed' of vice a villainy' megis affairs, S&M, twyllo, celwydd ayyb. Twin Peaks yr un peth.

Yn ol y we roedd y Doors yn canu amdanno, ond er bo fi'n fan dwi di bod yn struglo meddwl pa caneuon a pam?

Mae llyfr Mari Strachen (The Earth humns in B-flat) yn esiampl ffantastic o'r 'genre', dwi', yn gwybod os oes yna lyfre Cymraeg ei iaith tebyg?

Hmm, felly: *blank dan y wyneb* = "Amheuster dan y wyneb"?

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 11:27 am
gan SerenSiwenna
*Bwmp*

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Iau 21 Ion 2010 12:54 am
gan ffwrchamotobeics
Drygioni cudd. Swnio'n naff a 80au, ond neud y point! falle! Neu 'Anhwfn o le'. Well cyfieithu heb feddwl rhy hir!

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Llun 25 Ion 2010 10:08 am
gan SerenSiwenna
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Drygioni cudd. Swnio'n naff a 80au, ond neud y point! falle! Neu 'Anhwfn o le'. Well cyfieithu heb feddwl rhy hir!



Drygioni cudd yn reit dda tydi? ac mae o'n gwneud y pwynt yn iawn - fydd pawb yn gallu ei ddeall heb fynd at y geiriadur i chwilio...ia, dyna wnai ei ddefnyddio rwy'n credu, gan rhoi 'credit' i tithau 8)

Be mae pawb arall yn feddwl - Drygioni cudd amdanni?

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Llun 25 Ion 2010 10:13 am
gan SerenSiwenna
Oes yna unrhyw cyfresi tyledu Gymraeg yn y genre yma (megis cyfresi Americanaidd fel Twin Peaks)? Neu unrhyw lyfre?

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Llun 25 Ion 2010 11:08 am
gan sian
Dw i ddim cweit yn siwr be ti'n feddwl ond swn i'n meddwl bod llyfr newydd Llwyd Owen - Mr Blaidd - yn ffitio'r disgrifiad reit dda.

Re: Seedy underbelly?

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ion 2010 9:27 am
gan SerenSiwenna
sian a ddywedodd:Dw i ddim cweit yn siwr be ti'n feddwl ond swn i'n meddwl bod llyfr newydd Llwyd Owen - Mr Blaidd - yn ffitio'r disgrifiad reit dda.


Hmm, hwn yn edrych yn ddiddorol iawn - dwi'm yn siwr os bydd e'n ffitio i genre 'drygioni cudd' yntai yw'r drygioni drwyddi draw ac ar y wyneb, ond mae'n edrych yn llyfr diddorol eniwe...

Dwi di bod yn meddwl amdanni ac mae Martha, Jac a Sianco yn esiampl da o 'drygioni cudd'. Ar y wyneb mae'r teulu yn byw ar fferm bach neis yng Ngheredigion, pobl parchus ayyb....ond dan y wyneb mae na gyfrinach siocing sy'n gwenwynor sin hwylus...pob dim dan y wyneb, pawb yn cogio nad oes dim yn bod.

Drygioni cudd yw premis cyfresi megis: Twin Peaks a Midsomer Murder, a llyfr gwych Mari Strachen sef: The Earth Hums in B-flat...unrhywun arall wedi ei ddarllen?