Tudalen 1 o 1

capelau yn sir fon

PostioPostiwyd: Maw 26 Ion 2010 12:28 pm
gan robin hughes
Ar ol dod yn ol i fyw yn yr ynys mi benderfynais i fynd i gapel gwahanol bob bore sul.
yr oeddwn yn hoffi clywed yr iaith gymraeg yn cael ei siarad gan y gwenidog er mwyn dysgu mwy o eiriau estron.Y problem gyntaf oedd bod llawer o'r capeli wedi cau neu mond yn agor un waith yn y mis.
Oedd y genidog yn defnyddio geiriau hanodd i mi , ond mi wnes i ysgrifennu y geiriau yr oeddwn wedi clywed ,i lawr er mwyn edrych i fyny yn y geiriadur.
Mi wnes i gyfarfod llawer o bobol yn y capelau yma ac mi wnes i ofyn cwestiwn i'r aelodau. Yr ydych chi yn deall be sydd yn mynd ymlaen?
Fel arfer nid oedd y pobol cyffredin yn deall y geiriau crach yn cael ei defnyddio yn y bregeth! Yr oedd rhai o'r aelodau yn academaidd ac yr oeddun nhw yn synnu bod rhan fwyaf ddim yn deall y geiriau bibligaidd! Yr oedd neb wedi cwyno chwaith!. Yr wyf yn edrych ymlaen i godi'r pwnc yma yn y dyfodol Hwyl rwan Robin

Re: capelau yn sir fon

PostioPostiwyd: Maw 26 Ion 2010 7:50 pm
gan Rhys Llwyd
Fedra i ddim dioddef y llais ffals "pregethwrol" mae rhai pregethwyr yn rhoi mlaen pan maen nhw'n pregethu. Mae nhw'n siarad yn gall gyda chi wyneb yn wyneb ond unwaith mae nhw yn codi i'r pulpud mae yna berson newydd, bron a bod yn ffals yn dod allan. Ymysg y gwaethaf y mae'r rhai sy'n siarad yn araf tu hwnt ac yn gwneud y cyfan air am air o sgript! Nid pregethu mo hyn ond darlithio ac mae yna wahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau beth. Os wyt ti ishe pobl i wrando ar yr hyn sgen ti rannu maen rhaid i ti sgwrsio gyda nhw fel ffrindiau ac felly siarad go-iawn ac nid yn y dôn ffals bregethwrol. Wrth i mi bregethu dwi'n cyfri'r pethau yma yn bwysig, ac maen debyg, yn y drefn yma o bwysigrwydd:

1. Esbonio a cymhwyso'r Gair i'r bobl sydd o'm blaen
2. Adnabod a gwybod lle mae'r bobl arni ar eu pererindod ysbrydol (dyma pam y bod llawer gwell gyda mi Bregethu yn fy eglwys i nac mewn eglwysi eraill)
3. Rhoi gobaith i'r gwrandawyr hyd yn oed wrth drafod pethau annodd.
4. Defnyddio LLAWER o gyfeiriadaeth at ddiwylliant/sefyllfaoedd cyfoes er mwyn dangos y bod y Gair a neges i'n hoes ag fod yr Efengyl yn berthnasol heddiw.
5. Defnyddio llawer o hiwmor er mwyn cadw sylw'r gynulleidfa, nid cadw eu sylw ar y pregethwr ei hun ond cadw eu sylw at y neges.

Re: capelau yn sir fon

PostioPostiwyd: Mer 27 Ion 2010 7:34 am
gan Josgin
Fe wnaeth fy ngwraig stopio fynd i'r capel oherwydd nad oedd yn deall hanner y geiriau (weithiau, mae'n rhaid adnabod y geiriau er mwyn deall y gair, fel petai).
Mae'n gweld llawer o grefydd Cymraeg , yn enwedig yr emynau, yn annealladwy.

Re: capelau yn sir fon

PostioPostiwyd: Mer 27 Ion 2010 9:05 pm
gan Emma Reese
Josgin a ddywedodd:Mae'n gweld llawer o grefydd Cymraeg , yn enwedig yr emynau, yn annealladwy.


Dyna pam bod Arfon Jones o Obaith i Gymru wrthi'n cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg gyfoes:
http://www.beibl.net/adre/index.php

Robin Hughes, wyt ti wedi clywed pregeth Rhys Llwyd? http://blog.rhysllwyd.com/?p=1262
Mae o'n ymarfer y pum pwynt a wnaeth o restru yn ei bost 'ma.

Ces i fy synnu bod 'na weinidog yn darllen (heb godi ei wyneb unwaith) ei bregeth at y gynulleidfa un noson Sul pan oeddwn i yng Nghymru'r llynedd. Gobeithio bydd 'na fwy o bregethwyr fel Rhys o hyn ymlaen.

Re: capelau yn sir fon

PostioPostiwyd: Iau 28 Ion 2010 9:32 am
gan Manon
robin hughes a ddywedodd:Ar ol dod yn ol i fyw yn yr ynys mi benderfynais i fynd i gapel gwahanol bob bore sul.


Waw am syniad da, mynd i le gwahanol bob dydd Sul!

Re: capelau yn sir fon

PostioPostiwyd: Iau 28 Ion 2010 12:40 pm
gan Rhys Llwyd
Diolch am y sylwadau caredig Emma ond dwi'n siwr fod yn bobl all rannu gair lot gwell na fi allan yna :?