Duw a ddywedodd:Ie dyna'r un dwi'n cyfeirio ato (Bwrdd yr Iaith). Mae cymaint o dermau syml ar goll o'r geiriadur TG. Mae'n fy ngwylltio i pan na fydd term ar gael unrhyw le ar-lein. Yna mae'n rhaid dyfeisio'r term! O boi. Tri mis wedyn, ffeindio bod rhywun arall wedi creu gair arall amdano.
Mae hwnna'n digwydd yn saesneg 'fyd. Dyna sut aeth web log i weblog i blog. Ond mae yna fwy o bobl 'dylanwadol' sy'n gallu poblogeiddio term yn saesneg (fel 'Web 2.0' ac wrth gwrs mae'r dogfennau technegol gwreiddiol fel RFCs yn safoni termau yn eu hunain.
Mae termau TG newydd yn cael eu trafod ar welsh-termau-cymraeg a mae trafodaethau fel yna (ac ar fforymau) yn cael eu hystyried wrth safoni yn ôl beth dwi'n ddeall.
Duw a ddywedodd:Nol i'r pwynt - Bwrdd yr Iaith: gwe-letya ond hefyd gwesteia. Gwesteiwr 'dwi erioed wedi'i ddefnyddio ar gyfer 'host'. Er mwyn safoni beth fydde'r 'host' - gwe-letiwr?
gwesteiwr gwe fydde i'n ddweud - mae'n bosib dilyn y patrwm wedyn i sôn am 'gwesteiwr ebost', 'gwesteiwr DNS' ac ati