Tudalen 1 o 1

Web Hosting

PostioPostiwyd: Mer 27 Ion 2010 5:57 pm
gan finch*
Dwi'n trio cyfieithu web hosting ond yn cael trafferth. Dwi wedi bod trwy ebyst WTC a gweld taw Lletya sy'n cael ei ddefnyddio fwya ond dwi ddim yn siwr os yw hyn yn cyfleu 'hosting' yn iawn.

Cyn edrych ar WTC llwyfannu gwefannau oen i'n bwriadu defnyddio.

All rhywun helpu?

Re: Web Hosting

PostioPostiwyd: Mer 27 Ion 2010 9:28 pm
gan dafydd
finch* a ddywedodd:Dwi'n trio cyfieithu web hosting ond yn cael trafferth. Dwi wedi bod trwy ebyst WTC a gweld taw Lletya sy'n cael ei ddefnyddio fwya ond dwi ddim yn siwr os yw hyn yn cyfleu 'hosting' yn iawn.

Cyn edrych ar WTC llwyfannu gwefannau oen i'n bwriadu defnyddio.

Dwi ddim yn or-hoff o letya, ond dyna be sy'n 'safonol' erbyn hyn. Dyw 'llwyfannu' ddim mor addas chwaith am fod gwe-lety ar gael ar gyfer gwahanol lwyfannau, hynny yw - Windows/Linux/Solaris/FreeBSD a Apache/IIS/nginx/RoR ayyb. Dwi'n meddwl mai 'gwe-letya' yw'r dewis gorau os nad oes cynnig arall.

Re: Web Hosting

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ion 2010 7:45 am
gan Duw
Diddorol. Oes yna terminadur da ar gyfer TGCH cyfoes (nid yr un Bwrdd yr Iaith na Chysgair)? Mae'n debyg bod unigolion 'in-the-know' ac unigolion 'in-th-dark'. Pwy sy'n penderfynu ar y termau swyddogol?

Mae hwn yn ben tost!

Nid yn unig dod o hyd at dermau, ond y termau eu hunain - dwi'm 'nabod bron unrhyw un sy'n defnyddio rhyngwynebau Cymraeg 'swyddogol' oherwydd diffyg dealltwriaeth. Mae fel darllen testun safon A heb fod wedi astudio'r pwnc o'r blaen. Torgalonnus. :rolio:

Re: Web Hosting

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ion 2010 12:39 pm
gan dafydd
Duw a ddywedodd:Diddorol. Oes yna terminadur da ar gyfer TGCH cyfoes (nid yr un Bwrdd yr Iaith na Chysgair)? Mae'n debyg bod unigolion 'in-the-know' ac unigolion 'in-th-dark'. Pwy sy'n penderfynu ar y termau swyddogol?

Hwn dwi'n ddefnyddio fel ffynhonnell. Wrth gwrs mae'r rhestr yn cael ei benderfynu gan pwyllgor ond os ydi pobl yn defnyddio term yn ddigon aml ar fforymau/blogiau ayyb dwi'n credu fod gwell siawns o'r termau hynny yn cydio.

Re: Web Hosting

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ion 2010 5:42 pm
gan Duw
Ie dyna'r un dwi'n cyfeirio ato (Bwrdd yr Iaith). Mae cymaint o dermau syml ar goll o'r geiriadur TG. Mae'n fy ngwylltio i pan na fydd term ar gael unrhyw le ar-lein. Yna mae'n rhaid dyfeisio'r term! O boi. Tri mis wedyn, ffeindio bod rhywun arall wedi creu gair arall amdano. Mae'n jest llanastr llwyr. Mae'n rhaid bod ffordd well/haws na hyn. Hefyd a oes modd i Joni Pyblig leisio barn? Mae academics mewn tyrrau gwyn rhithwir yn aml yn cynhyrchu enwau hurt - rhai sydd yn gwneud synnwyr technegol, ond affach o ddim iws i'r cyhoedd a fydd yn eu defnyddio mewn pecynnau.

Sori Daf - jest cael rant bach. Rhwystredigaeth llwyr. :x

Nol i'r pwynt - Bwrdd yr Iaith: gwe-letya ond hefyd gwesteia. Gwesteiwr 'dwi erioed wedi'i ddefnyddio ar gyfer 'host'. Er mwyn safoni beth fydde'r 'host' - gwe-letiwr?

Re: Web Hosting

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ion 2010 6:39 pm
gan dafydd
Duw a ddywedodd:Ie dyna'r un dwi'n cyfeirio ato (Bwrdd yr Iaith). Mae cymaint o dermau syml ar goll o'r geiriadur TG. Mae'n fy ngwylltio i pan na fydd term ar gael unrhyw le ar-lein. Yna mae'n rhaid dyfeisio'r term! O boi. Tri mis wedyn, ffeindio bod rhywun arall wedi creu gair arall amdano.

Mae hwnna'n digwydd yn saesneg 'fyd. Dyna sut aeth web log i weblog i blog. Ond mae yna fwy o bobl 'dylanwadol' sy'n gallu poblogeiddio term yn saesneg (fel 'Web 2.0' ac wrth gwrs mae'r dogfennau technegol gwreiddiol fel RFCs yn safoni termau yn eu hunain.

Mae termau TG newydd yn cael eu trafod ar welsh-termau-cymraeg a mae trafodaethau fel yna (ac ar fforymau) yn cael eu hystyried wrth safoni yn ôl beth dwi'n ddeall.

Duw a ddywedodd:Nol i'r pwynt - Bwrdd yr Iaith: gwe-letya ond hefyd gwesteia. Gwesteiwr 'dwi erioed wedi'i ddefnyddio ar gyfer 'host'. Er mwyn safoni beth fydde'r 'host' - gwe-letiwr?

gwesteiwr gwe fydde i'n ddweud - mae'n bosib dilyn y patrwm wedyn i sôn am 'gwesteiwr ebost', 'gwesteiwr DNS' ac ati

Re: Web Hosting

PostioPostiwyd: Sad 30 Ion 2010 1:35 am
gan Duw
diolch Daf.