Tudalen 1 o 1

Mochyndra

PostioPostiwyd: Sad 30 Ion 2010 6:42 pm
gan tachwedd5
Mae angen cymorth araf os gwelwch yn dda.

Beth yw ystyr y gair mochyndra? (neu y gwahaniaeth rhwng mochyn/mochyndra)

Rwy'n gwybod bod Mochyn yn UN, Moch yw fwy nag un. Dim ond angen bach o help i fi edrych yn y man cywir mewn nifer o lyfrau gramadeg sy gennyf- dw i fethu dod i unrhyw esboniad o gwbl. Rwy'n dechrau mynd yn gwcw!

Diolch yn fawr iawn.

Re: Mochyndra

PostioPostiwyd: Sad 30 Ion 2010 7:00 pm
gan sian
Mae "mochyndra" yn golygu "filth" yn yr ystyr foesol (moral).

"Be ti'n neud yn watsho'r ffilm 'na? Weles i erioed y fath fochyndra!"

Re: Mochyndra

PostioPostiwyd: Sad 30 Ion 2010 11:06 pm
gan Kez
mochyn - pig + slang plismon (hen ffasiwn ?)
moch - pigs + slang plismyn
mochyndra - load of pigshit, ffycin mes,cachu a budreddi - filth moesol ac fel arall wetswn i!
mochaidd - (ffigurol) piggish, filthy, pervy-ish

Re: Mochyndra

PostioPostiwyd: Llun 01 Chw 2010 11:30 am
gan SerenSiwenna
Ehedyn diddorol iawn!

Mae'n wneud synwyr wans ti'n gwybod tydi...dwi'n defyddio'r term 'Familiarity' i fy thesis a 'Cynefindra' di hwnw...ond felly does na ddim air Saesneg sy'n cyfateb a Mochyndra...Pigularity! HA ha, hoffi'r gair Mochyndra - wnai ddechrau ei ddefnyddio rwy'n credu 8)

Re: Mochyndra

PostioPostiwyd: Llun 01 Chw 2010 10:39 pm
gan y mab afradlon
A wi'n mynd i ddefnyddio "pigularity" o hyn ymlaen! :lol:

Cytuno gyda Kez - "Beth yw'r mochyndra (bryntni, stecs, baw etc) 'na ar dy ddylo?"