Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati
Cymedrolwr: Gwen
gan xxglennxx » Iau 04 Chw 2010 11:14 pm
Oes treiglad meddal ar ôl dweud 'sut'? Er enghraifft,
Sut fydd y tywydd yfory? yn lle Sut bydd y tywydd yfory?
Dwi wedi gweld y ddau, ond p'run sy'n gywir yn ôl gramadeg y Gymraeg?
Diolch.
-
xxglennxx
- Defnyddiwr
-
- Negeseuon: 99
- Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
- Lleoliad: Caergybi
gan Kez » Gwe 05 Chw 2010 1:29 am
Wi'n credu taw 'sut bydd' sy'n gywir heb y treiglad - dim treiglad pan fo sut yn cal ei hiwso fel cwestiwn yn yr ystyr Saesneg 'how?'
Ond os oes ystyr 'kind of' i sut, fe gei di dreiglad yn bendant wedyn ee:
Sut/shwt ddyn yw e? - What kind of guy is he?
Ma fe shwt gachwr - He's such a shithead
-
Kez
- Defnyddiwr Arian
-
- Negeseuon: 661
- Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
- Lleoliad: Battersea
-
gan sian » Gwe 05 Chw 2010 2:11 pm
Mae Kez yn iawn am Sut + enw - "Sut ddiwrnod gest ti?"
O flaen berf - Wrth ysgrifennu'n ffurfiol, mae "y" yn dod ar ôl "Sut". "Sut y gwyddost ti mai Huw wnaeth?" "Sut y cafodd ef ei anafu?"
Ond wrth ysgrifennu'n anffurfiol neu siarad, mae pobl yn tueddu i beidio â chynnwys yr "y" ac i dreiglo'n feddal:
Cân Huw Jones slawer dydd:
"Sut fedri di anghofio bod hanes dyn yn hir ...?"
-
sian
- Gweinyddwr
-
- Negeseuon: 3413
- Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
- Lleoliad: trefor
-
gan xxglennxx » Sad 06 Chw 2010 6:34 pm
Diolch i'r ddau ohonoch
-
xxglennxx
- Defnyddiwr
-
- Negeseuon: 99
- Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
- Lleoliad: Caergybi
Dychwelyd i Defnydd yr Iaith
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai