Tudalen 1 o 1

Treiglad ar ôl 'sut'?

PostioPostiwyd: Iau 04 Chw 2010 11:14 pm
gan xxglennxx
Oes treiglad meddal ar ôl dweud 'sut'? Er enghraifft,

Sut fydd y tywydd yfory? yn lle Sut bydd y tywydd yfory?

Dwi wedi gweld y ddau, ond p'run sy'n gywir yn ôl gramadeg y Gymraeg?

Diolch.

Re: Treiglad ar ôl 'sut'?

PostioPostiwyd: Gwe 05 Chw 2010 1:29 am
gan Kez
Wi'n credu taw 'sut bydd' sy'n gywir heb y treiglad - dim treiglad pan fo sut yn cal ei hiwso fel cwestiwn yn yr ystyr Saesneg 'how?'

Ond os oes ystyr 'kind of' i sut, fe gei di dreiglad yn bendant wedyn ee:

Sut/shwt ddyn yw e? - What kind of guy is he?
Ma fe shwt gachwr - He's such a shithead

Re: Treiglad ar ôl 'sut'?

PostioPostiwyd: Gwe 05 Chw 2010 2:11 pm
gan sian
Mae Kez yn iawn am Sut + enw - "Sut ddiwrnod gest ti?"

O flaen berf - Wrth ysgrifennu'n ffurfiol, mae "y" yn dod ar ôl "Sut". "Sut y gwyddost ti mai Huw wnaeth?" "Sut y cafodd ef ei anafu?"

Ond wrth ysgrifennu'n anffurfiol neu siarad, mae pobl yn tueddu i beidio â chynnwys yr "y" ac i dreiglo'n feddal:

Cân Huw Jones slawer dydd:

"Sut fedri di anghofio bod hanes dyn yn hir ...?"

Re: Treiglad ar ôl 'sut'?

PostioPostiwyd: Sad 06 Chw 2010 6:34 pm
gan xxglennxx
Diolch i'r ddau ohonoch :D