Marchnad ffodus

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Marchnad ffodus

Postiogan Marc y Rhath » Gwe 05 Chw 2010 9:53 pm

Oes unrhyw un wedi dros ar draws y dywediad yma erioed? Mae'n ymddangos mewn llyfr rwy'n cyfieithu o'r Saesneg; cafodd ei sgwennu ym 1862. Dyma'r cyswllt:

Addefir nad oes fwy diwyd amaethwyr na thyddynwyr Cymru ar yr holl ddaear... ond anaml iawn y maent yn codi uwchlaw "o'r llaw i'r genau." Helbul fawr i grafu y rhent; gorchest a marchnad ffodus i gael dillad newydd; aberth a baich trwm yw y geiniog yn yr wythnos dros y plant yn yr ysgol; amheuthyn cefnog yw y papur newydd ceiniog a chyhoeddiad yr enwad; a chrefydd fawr yw y casgliad yn y capel.


Mae rhywun wedi cynnig i fi mai euphemism ar gyfer siop y gwystlwr yw e, ond dyfalu yw hynny. A fedrwch chi fy helpu? Diolch o galon os medrwch!
Marc y Rhath
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 05 Chw 2010 9:02 pm

Re: Marchnad ffodus

Postiogan Marc y Rhath » Gwe 05 Chw 2010 10:12 pm

:ofn: A sut mae cael gwared ar ddyfyniad fy mhroffil Facebook o'r llofnod? Dyfyniad hawdd i'w gamddeall fel snobeidd-dra allan o'i gyswllt!

*Golygiad: A, mae wedi diflannu nawr
Marc y Rhath
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 05 Chw 2010 9:02 pm

Re: Marchnad ffodus

Postiogan Kez » Sad 06 Chw 2010 1:04 pm

Marc y Rhath a ddywedodd:Oes unrhyw un wedi dros ar draws y dywediad yma erioed? Mae'n ymddangos mewn llyfr rwy'n cyfieithu o'r Saesneg; cafodd ei sgwennu ym 1862. Dyma'r cyswllt:

Addefir nad oes fwy diwyd amaethwyr na thyddynwyr Cymru ar yr holl ddaear... ond anaml iawn y maent yn codi uwchlaw "o'r llaw i'r genau." Helbul fawr i grafu y rhent; gorchest a marchnad ffodus i gael dillad newydd; aberth a baich trwm yw y geiniog yn yr wythnos dros y plant yn yr ysgol; amheuthyn cefnog yw y papur newydd ceiniog a chyhoeddiad yr enwad; a chrefydd fawr yw y casgliad yn y capel.


Mae rhywun wedi cynnig i fi mai euphemism ar gyfer siop y gwystlwr yw e, ond dyfalu yw hynny. A fedrwch chi fy helpu? Diolch o galon os medrwch!


Mae "o'r llaw i'r genau" yn golygu "from hand to mouth", hynny yw mae amaethwyr a thyddynwyr Cymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd: maen nhw'n pallu codi uwchlaw eu sefyllfa dlawd a thruenus neu a defnyddio dywediad arall, maen nhw'n byw bywyd "dala llygoden a'i bwyta" - ots pwy mor ddiwyd man nhw'n gweithio.

Sori, ifi newydd sylweddoli bo ti'n gofyn be ma'r dywediad yn y teitl - marchnad ffodus - yn ei feddwl :wps: Stim ffycin clem da fi biti hwnna, m' arnoi ofan!
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Marchnad ffodus

Postiogan sian » Sad 06 Chw 2010 2:15 pm

Gallai "marchnad ffodus" olygu eu bod nhw wedi cael pris da yn y farchnad? Fel "marchnad ffafriol"?

Un o ystyron cyntaf "gorchest" yw "tipyn o gamp", "gweithred anodd"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Marchnad ffodus

Postiogan sian » Sad 06 Chw 2010 2:28 pm

Kez a ddywedodd:maen nhw'n pallu codi uwchlaw eu sefyllfa dlawd a thruenus


Diddorol - faint o bobl sy'n gweud "pallu" am "ffaelu"? I fi, gwrthod yw "pallu"

Mae'n gweithio fel arall yn Saesneg "The driver failed to stop" - yn golygu "gwrthod" - a nawr mae pobol darllen newyddion Cymraeg yn dweud "Roedd y gyrrwr wedi methu aros" - sy'n swnio fel bod e wedi ffaelu stopio yn hytrach na'i fod wedi dewis peidio :lol:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Marchnad ffodus

Postiogan Kez » Sad 06 Chw 2010 3:17 pm

Fi'n credu bod y ddwy ystyr yn reit debyg weithiau - ma'n dibynnu be ti'n moyn weud.

Os ti'n gweud - ma'r drws yn pallu agor - swn i'n gweud bo ti'n ffilu ei agor e; dyw drws ddim yn gallu gwrthod gwneud dim byd, drws yw e!

Os ti'n gweud - ma fe'n pallu siarad a fi - wel, mwy na thebyg ma fe'n gwrthod siarad a thi, ond os ti'n gweud ma fe'n ffilu siarad a fi - ma hwnna'n gallu meddwl yr un peth ontefe, felly mae ffilu yn gallu golygu gwrthod hefyd os ti'n deall be s'da fi.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Marchnad ffodus

Postiogan Marc y Rhath » Sul 07 Chw 2010 1:05 am

Diolch kez, a diolch sian. Yn dilyn syniad sian, dyma'r cyfieithiad sydd gen i nawr:
affording clothes for the children is quite a feat, and depends on favourable prices at the market

Neu a fyddai good luck at the market yn agosach at yr ystyr, tybed?...
Marc y Rhath
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 05 Chw 2010 9:02 pm


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron