Marc y Rhath a ddywedodd:Oes unrhyw un wedi dros ar draws y dywediad yma erioed? Mae'n ymddangos mewn llyfr rwy'n cyfieithu o'r Saesneg; cafodd ei sgwennu ym 1862. Dyma'r cyswllt:
Addefir nad oes fwy diwyd amaethwyr na thyddynwyr Cymru ar yr holl ddaear... ond anaml iawn y maent yn codi uwchlaw "o'r llaw i'r genau." Helbul fawr i grafu y rhent; gorchest a marchnad ffodus i gael dillad newydd; aberth a baich trwm yw y geiniog yn yr wythnos dros y plant yn yr ysgol; amheuthyn cefnog yw y papur newydd ceiniog a chyhoeddiad yr enwad; a chrefydd fawr yw y casgliad yn y capel.
Mae rhywun wedi cynnig i fi mai
euphemism ar gyfer siop y gwystlwr yw e, ond dyfalu yw hynny. A fedrwch chi fy helpu? Diolch o galon os medrwch!
Mae
"o'r llaw i'r genau" yn golygu
"from hand to mouth", hynny yw mae amaethwyr a thyddynwyr Cymru yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd: maen nhw'n pallu codi uwchlaw eu sefyllfa dlawd a thruenus neu a defnyddio dywediad arall, maen nhw'n byw bywyd
"dala llygoden a'i bwyta" - ots pwy mor ddiwyd man nhw'n gweithio.
Sori, ifi newydd sylweddoli bo ti'n gofyn be ma'r dywediad yn y teitl - marchnad ffodus - yn ei feddwl
Stim ffycin clem da fi biti hwnna, m' arnoi ofan!