Tudalen 1 o 1

Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 14 Chw 2010 3:02 pm
gan William312
Prin iawn yw defnydd o'r Gymraeg yn CPD Wrecsam - gwael iawn i ddweud y gwir. Dim Cymreag o gwbl gan y Crusaders - yn amlwg tydyn nw ddim o ddifrif am ddenu cefnogwyr ar draws Gogledd Cymru. Yn amlwg mai pobl Caer mae nw ei eisiau ac felly dyna pam y diflanodd y "Celtic" o'r enw. Sut mae pethau gyda timau eraill yng Nghymru? Cyfle i enwi a chywilyddu.

Re: Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 14 Chw 2010 10:05 pm
gan Duw
Paid รข dechre! Rhanbarthau (heb law Scarlets) a URC yn warthus. Dwi wedi gwthio am safleoedd dwyieithog ers dro, a dim ond wedi derbyn ymateb trist gan yr URC. Cywilyddus wir. :rolio:

Re: Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 19 Chw 2010 11:15 pm
gan William312
Chwarae teg i'r Sgarlets.

Rwan bod boi o Ruthun yn gadeirydd Wrecsam, hwyrach y bod modd dwyn perswad ar GPD Wrecsam.

Diwedd y gan yw'r geiniog a pe bai siaradwyr Cymraeg yn penderfynnu cadw draw neu fynychu llai o gemau a boicotio nwyddau/bwyd/diod ac ati efallai y daw newid. Mae'n rhaid bod llawer o gefnogwyr peldroed a rygbi yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg.

Ydi CIG wedi trio ymgyrchu?

Beth am Fwrdd yr Iaith, ydyn nhw wedi trio gweud rhywbeth?

Beth am gasglu rhestr o gyferiadau ebyst y clybiau ac annog pawb i anfon nodyn yn gofyn am newid polisi.

Re: Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 24 Chw 2010 6:27 am
gan William312
William312 a ddywedodd:Prin iawn yw defnydd o'r Gymraeg yn CPD Wrecsam - gwael iawn i ddweud y gwir. Dim Cymreag o gwbl gan y Crusaders - yn amlwg tydyn nw ddim o ddifrif am ddenu cefnogwyr ar draws Gogledd Cymru. Yn amlwg mai pobl Caer mae nw ei eisiau ac felly dyna pam y diflanodd y "Celtic" o'r enw. Sut mae pethau gyda timau eraill yng Nghymru? Cyfle i enwi a chywilyddu.


Oes rhywun am enwi a chywilyddio eu clwb hwy, neu yden ni i gyd yn ddifater yn hyn o beth a dyna beth sydd sydd i'w gyfif am y sefyllfa. Cadeirydd newydd yn CPD Wrecsam a Crusaders (Cymro (igydbodfo di-Gymraeg))- cyfle am newid cyferiad - cysyllter.