Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

Postiogan William312 » Sul 14 Chw 2010 3:02 pm

Prin iawn yw defnydd o'r Gymraeg yn CPD Wrecsam - gwael iawn i ddweud y gwir. Dim Cymreag o gwbl gan y Crusaders - yn amlwg tydyn nw ddim o ddifrif am ddenu cefnogwyr ar draws Gogledd Cymru. Yn amlwg mai pobl Caer mae nw ei eisiau ac felly dyna pam y diflanodd y "Celtic" o'r enw. Sut mae pethau gyda timau eraill yng Nghymru? Cyfle i enwi a chywilyddu.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

Postiogan Duw » Sul 14 Chw 2010 10:05 pm

Paid â dechre! Rhanbarthau (heb law Scarlets) a URC yn warthus. Dwi wedi gwthio am safleoedd dwyieithog ers dro, a dim ond wedi derbyn ymateb trist gan yr URC. Cywilyddus wir. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

Postiogan William312 » Gwe 19 Chw 2010 11:15 pm

Chwarae teg i'r Sgarlets.

Rwan bod boi o Ruthun yn gadeirydd Wrecsam, hwyrach y bod modd dwyn perswad ar GPD Wrecsam.

Diwedd y gan yw'r geiniog a pe bai siaradwyr Cymraeg yn penderfynnu cadw draw neu fynychu llai o gemau a boicotio nwyddau/bwyd/diod ac ati efallai y daw newid. Mae'n rhaid bod llawer o gefnogwyr peldroed a rygbi yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg.

Ydi CIG wedi trio ymgyrchu?

Beth am Fwrdd yr Iaith, ydyn nhw wedi trio gweud rhywbeth?

Beth am gasglu rhestr o gyferiadau ebyst y clybiau ac annog pawb i anfon nodyn yn gofyn am newid polisi.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: Timau Peldroed a Rygbi a'r Defnfydd o'r Gymraeg

Postiogan William312 » Mer 24 Chw 2010 6:27 am

William312 a ddywedodd:Prin iawn yw defnydd o'r Gymraeg yn CPD Wrecsam - gwael iawn i ddweud y gwir. Dim Cymreag o gwbl gan y Crusaders - yn amlwg tydyn nw ddim o ddifrif am ddenu cefnogwyr ar draws Gogledd Cymru. Yn amlwg mai pobl Caer mae nw ei eisiau ac felly dyna pam y diflanodd y "Celtic" o'r enw. Sut mae pethau gyda timau eraill yng Nghymru? Cyfle i enwi a chywilyddu.


Oes rhywun am enwi a chywilyddio eu clwb hwy, neu yden ni i gyd yn ddifater yn hyn o beth a dyna beth sydd sydd i'w gyfif am y sefyllfa. Cadeirydd newydd yn CPD Wrecsam a Crusaders (Cymro (igydbodfo di-Gymraeg))- cyfle am newid cyferiad - cysyllter.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron