Windows Live Messenger - Negesydd Fyw Windows
Postiwyd: Gwe 19 Chw 2010 11:52 am
Helo meddwl oeddwn i gyda datblygiad diweddar Windows 7 yn y Gymraeg a gyda maes dechnoleg cyfrifiadurol Cymraeg yn cynyddu bob blwyddyn pam nad oes neb wedi cynnig cyfieithu Msn, Windows Live messenger? Mae'r meddalwedd yma ar gael mewn nifer o ieithoedd yn barod a roeddwn i'n meddwl pe tasai rhywun yma sydd â chysylltiadau uwch i edrych mewn i'r peth, Dwi'n defnyddio firefox, microsoft office a rhyngwyneb fy nghyfrifiadur a'm cliniadur i gyd yn Gymraeg oni basai'n wych cael y dewis gyda Windows live messenger?, Oes rhywun wedi dod â'r pwnc yma dan y lach eto neu?