Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Postiogan William312 » Maw 23 Chw 2010 12:44 pm

Hedd wnei di dynnu'r drafodaeth yma i lawr! Newydd weld y ddolen i'r wefan Cymraeg - http://www.wru.co.uk/cym/13009.php
Golygwyd diwethaf gan William312 ar Maw 23 Chw 2010 12:55 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: UNDEB RYGBI CYMRU - GWEFAN GWARTHUS

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Chw 2010 12:53 pm

Ma nhw wedi gwneud tipyn o gynnydd i fod yn deg, llawer gwell na'r FAW, jest nad yw'r botymau iaith yn amlwg iawn 'ENG' a 'CYM' ma nhw'n defnyddio, ar ochr top chwith y wefan - http://wru.co.uk/cym/23042.php

Datganiad yma - http://www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk/24581

Gelli di weld yma y tudalennau a'r adrannau ma nhw wedi cyfieithu hyd yma - http://wru.co.uk/cym/ (Dylai y ffolder yna naill ai fod ar glo, neu fod tudalen index yno!)

Beth sydd angen iddyn nhw wneud yw parhau i gyfieithu'r holl gynnwys, ac i wneud y botymau iaith yn gliriach a defnyddio 'Cymraeg' a 'English'. Hefyd, gan eu bod yn defnyddio 'splash' sgrin, dylai fod opiswn iaith amlwg iawn yma hefyd - http://wru.co.uk/

Ond am wefan Stadiwm y Mileniwm, uniaith Saesneg! http://www.millenniumstadium.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: UNDEB RYGBI CYMRU - GWEFAN GWARTHUS

Postiogan William312 » Maw 23 Chw 2010 12:58 pm

Diolch. Wnei di dynnu hwn lawr oherwydd fy nghamgymeriad. Wps!!
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Chw 2010 1:18 pm

Mae'n well ei adael fel bod pobl yn sylweddoli fod y wefan bellach ar gael yn Gymraeg (wel rhannau helaeth beth bynnag!)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Postiogan Duw » Maw 23 Chw 2010 6:41 pm

Aaaaaah. O'r diwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Postiogan William312 » Maw 23 Chw 2010 11:33 pm

Hedd - popeth yn iawn. Mae hi yn annodd gweld bod yna fersiwn Gymraeg ar gael a dyna pam y gwnes i feddwl nad oedd tudalennau Cymraeg i'w cael. Fel arfer, mae'r ddolen ar gyfer tudalennau Cymraeg ar ben y dudalen. Gwell fydda cael tudalen groeso sy'n gorfodi rhywun i ddewis iaith - hy does dim dewis diofyn - ac yna rhoi dolen i newid iaith ar frig pob tudalen, fel, e.e gwefannau cynghorau. Ers gwneud hynny, mae Cyngor Gwynedd yn cael 40% o ymwelwyr yn dewis y tudalennau Cymraeg!

Son am wefannau cynghorau, annodd cael gwell nac un Wrecsam. Er bod yr ardal yn llai Cymraeg na llawer o lefydd, tydw i erioed wedi cael sefyllfa lle nad oes tudalen Cymraeg cyfatebol i un Saesneg ar gael. Dyna fodel i gyrff fel URC a CPC

Er bod yna dudalennau Cymraeg ar wefan URC, nid oes gair o Gymraeg ar eu e-lythyr :ing: . Fe ddylai fod yn gwbl ddwyieithog yn fy marn i.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am

Re: Gwefan Undeb Rygbi Cymru

Postiogan William312 » Mer 24 Chw 2010 3:02 pm

I ychwanegu at y pwynt yn gynharach, dwi'n sylwi bod y dudalen groeso yn uniaith Saesneg sydd yn warth llwyr. Gweler - http://www.wru.co.uk/

Dylai bod y dudalen hon yn gwbl ddwyieithog a'ch bod yn cael dewis o fynd at y hafan Gymraeg neu'r hafan Saesoneg fel ar dudalen groeso cynghorau sir.
William312
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Iau 03 Medi 2009 9:56 am


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron