Da gweld Tesco yn Wrecsam heddiw efo arwydd mawr yn dymuno yn dda i'w cwsmeriaid ar ddydd gwyl Dewi. Y Gymraeg oedd uchaf ac yn llawer iawn mwy or ran maint y ffont . Yn Saisbury's (neu Sainsbury's) - ie y siop gyda'r peiriannau hunan-dalu cywilyddus uniaith Saesneg - y Saesneg oedd ar y brig ar arwydd cyfatebol.
Er bod lle i wella wrth gwrs, dyla pob copa walltog sydd yn medru Cymraeg ac mewn safle i ddewis Tesco fel eu archfarchnad hwy wneud hynny yfmi. Y nhw sydd yn haeddu y bunt Cymraeg ar hyn o bryd.