Tudalen 1 o 1

Tesco yn dweud - "Dydd Gwyl Dewi hapus" - a Saisbury's?

PostioPostiwyd: Mer 24 Chw 2010 12:09 am
gan William312
Da gweld Tesco yn Wrecsam heddiw efo arwydd mawr yn dymuno yn dda i'w cwsmeriaid ar ddydd gwyl Dewi. Y Gymraeg oedd uchaf ac yn llawer iawn mwy or ran maint y ffont :D . Yn Saisbury's (neu Sainsbury's) - ie y siop gyda'r peiriannau hunan-dalu cywilyddus uniaith Saesneg :ing: - y Saesneg oedd ar y brig ar arwydd cyfatebol. :crio:

Er bod lle i wella wrth gwrs, dyla pob copa walltog sydd yn medru Cymraeg ac mewn safle i ddewis Tesco fel eu archfarchnad hwy wneud hynny yfmi. Y nhw sydd yn haeddu y bunt Cymraeg ar hyn o bryd.

Re: Tesco yn dweud - "Dydd Gwyl Dewi hapus" - a Saisbury's?

PostioPostiwyd: Mer 24 Chw 2010 11:29 pm
gan huwwaters
ASDA (sydd hefyd efo peiriannau hunan-dalu uniaith Saesneg) yn dathlu Dydd Gwyl Dewi, ynghyd a gwyrthu gwisgoedd traddodiadol Cymreig i blant.

Re: Tesco yn dweud - "Dydd Gwyl Dewi hapus" - a Saisbury's?

PostioPostiwyd: Iau 25 Chw 2010 9:07 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae'r Gymraeg ar gael ar beiriannau M&S Inbhir Nis - ond dim Gaeleg!

Re: Tesco yn dweud - "Dydd Gwyl Dewi hapus" - a Saisbury's?

PostioPostiwyd: Mer 03 Maw 2010 2:36 pm
gan William312
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae'r Gymraeg ar gael ar beiriannau M&S Inbhir Nis - ond dim Gaeleg!


Tydi'r Gaeleg ddim mor bwysig!

Rhedeg i ffwrdd rwan.