Mae'n rhaid dweud fy mod yn casau'r ffurf amhersonol am ei bod mor amherthnasol. Pwy yn y Byd (Cymru/Patagonia), sy'n ei ddefnyddio? Pa bwrpas sydd iddo heddiw?
Mae dogfen o'r enw Cymraeg Clir wedi'i chyhoeddi gan Cen Williams, Prifysgol Bangor, sydd i mi, yn un o'r canllawiau iaith mwya defnyddiol dwi erioed wedi'i ddarllen.
http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/pdf/CymClir.pdfPan fyddaf yn gweld arwyddion yn y ffurf amhersonol, dwi'n meddwl "pretentious prig". Mae gwneud y ferf yn weithredol, personol yn gwneud llawer mwy o synnwyr i mi. Beth affach yw'r pwynt o trio bod yn smart-arse mewn iaith sydd yn annealladwy i'r mwyafrif?
Rydym yn trio cael mwy o'r iaith mewn mannau cyhoeddus ac yn ceisio ag annog sefydliadau i arddangos mwy o'u hysbysebion a'u llenyddiaeth yn yr iaith. Beth ddiawl yw'r pwynt os taw'r unig pobol sy'n gallu ei ddeall yw'r 0.001% ohonom sydd â gradd yn y blydi peth (ger llaw, 'stim hyd yn oed Safon O yn y Gymraeg gen i - falle dyna'r broblem).
Cyn i bobl dechrau fy nghyhuddo o fod yn 'bleb', mae'r un newid ieithyddol yn digwydd yn y Saesneg hefyd. Pan oeddwn yn gweithio fel gwyddonydd, roedd disgwyl ysgrifennu papurau yn defnyddio'r ffurfiau amhersonol, goddefol, e.e.
"Four point six milligrams of tetraethylamin were added to..."
Erbyn hyn, mae llawer o gymedrolwyr / golygyddion y cyfnodolion hyn yn mynnu ar Saesneg Plaen - ffurf weithredol, personol.
We added 4.6g of tetraethylamin to...
NEU
I added 4.6g of tetraethylamin to...