Yr amhersonol gorchmynnol

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan xxglennxx » Sul 04 Ebr 2010 12:32 am

James Leggett a ddywedodd:Helo!

Newyddyn ydwyf ac un awyddus i loywi fy nghymraeg! Ys gwyddwn i'n diweddar amdano'r arwyddion cyhoeddus yn y gorchmynnol fel 'gwthiwch' neu 'cerddwch'. Ddylen nhw ddim dweud 'gwthier' neu 'cerdder'? H.Y yn yr amhersonol yn lle yr 3ydd lluosog? Neu ydy'r diweddiadau amhersonol wedi eu goreu? DIolch am eich ymatebion!


Fel mae pawb arall yn dweud, gan ddefnyddio berfau sy'n defnyddio gorchymyn yr ydych yn "siarad" â'ch cynulleidfa'n bersonol. Mae "Agorwch y drws" yn llawer gwell na ddweud (a gweld) "Agorer y drws" oni bai mewn llenyddiaeth ffurfiol Cymraeg.

Dyma beth mae Heini Grufudd yn ei ddweud ynglŷn â phethau fel hyn ("Cymraeg Da, Ffurfiau'r Amhersonol"),

Presennol
-ir
edrychir gwelir cyhoeddir darllenir dywedir gellir
Rydym yn defnyddio'r amser presennol i ddweud beth sy'n digwydd nawr neu beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Cyhoeddir y llyfr y flwyddyn nesaf. (=Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf)

Gorffennol
-wyd
edrychwyd gwelwyd cyhoeddwyd darllenwyd dywedwyd honnwyd
Rydym yn defnyddio'r ffurf orffennol i sôn am un digwyddiad.
Cyhoeddwyd y llyfr ddoe. (=Cafodd y llyfr ei gyhoeddi ddoe)

Amherffaith ac Amhenodol
-id
edrychid gwelid cyhoeddid darllenid dywedid honnid
Rydym yn defnyddio'r ffurf amherffaith ac amhenodol i sôn am nifer o ddigwyddiadau, neu am gyflwr.
Cyhoeddid llawer o lyfrau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. (=Roedd llawer o lyfrau'n cael eu cyhoeddi . . .)
Eisteddid am amser cyn mynd ymlaen â'r gwaith. (Roedd [pobl] yn eistedd am amser cyn mynd ymlaen â'r gwaith)

Gorchmynnol
-er
edrycher gweler cyhoedder darllener dyweder
Rydym yn defnyddio'r ffurf orchmynnol i nodi gorchymyn neu ddymuniad.
Gweler tudalen 8.
Gwneler dy ewyllys.

Hmm. Dwi ddim yn siŵr pam ysgrifennais i hynny nawr. Ha. Wel, yno am gyfeiriad, felly.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron