Hazel a ddywedodd:Dyna pam dw i'n gofyn. Mae'n newydd edrych yn naturiol i mi. "The shop was closed early." "The children were sent out to play." Dw i erioed yn meddwl am unrhyw modd arall. Rhywbeth i mi feddwl amdani. Diolch.
"Ceuon nhw'r siop yn gynnar"
"Cafodd y plant eu hala mas i 'ware"
Yn y rhan fwyaf o gyd-destunnau, mae 'rhywun' yn gwneud rhywbeth, felly dwi'n defnyddio'r ffurf bersonol. Yn amlwg mae'n fwy anodd wrth i'r ddatganiad fynd yn fwy 'abstract', ac efallai bo lle i ddefnyddio'r ffurf amhersonol. Dim ond pregethwyr o'r Gogs a'r hwyr Hywel Teifi Edwards dwi wedi clywed yn siarad yn y ffurf amhersonol.
Dwi'n cofio mamgu a thrigolion f'ardal yn 'Nhw' am bron popeth. Yn hytrach na "dwedir ..." (e.e.
"it is said ..."), "mae'n nhw dweud ..." oedd i'w glywed. Roedd iaith bur iawn gan Mamgu a hen bobol y pentre - er byth bydde 'dwedir' a geiriau tebyg yn cael eu defnyddio.