Yr amhersonol gorchmynnol

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan James Leggett » Iau 25 Chw 2010 10:32 pm

Helo!

Newyddyn ydwyf ac un awyddus i loywi fy nghymraeg! Ys gwyddwn i'n diweddar amdano'r arwyddion cyhoeddus yn y gorchmynnol fel 'gwthiwch' neu 'cerddwch'. Ddylen nhw ddim dweud 'gwthier' neu 'cerdder'? H.Y yn yr amhersonol yn lle yr 3ydd lluosog? Neu ydy'r diweddiadau amhersonol wedi eu goreu? DIolch am eich ymatebion!
James Leggett
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 24 Chw 2010 5:03 pm

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan sian » Gwe 26 Chw 2010 12:26 am

Wel, efallai bod perygl i'r amhersonol swnio braidd yn "amhersonol"

Mae "Peidiwch â smocio" neu "Gwthiwch y drws" yn swnio'n fwy perthnasol i chi na "Nac ysmyger" a "Gwthier y drws"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 26 Chw 2010 8:51 pm

3ydd lluosog? 2il rwi'n credu. Rhaid cofio fod "Gwthier y drws" yn golygu rhywbeth fel "Caed y drws ei wthio", h.y. cystrawen oddefol ydy hi. Gwahaniaeth - "Deled dy deyrnas", "Gwneler dy ewyllys" - gweithredol, goddefol.

Beth am ddefnyddio'r 2il unigol?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan James Leggett » Iau 18 Maw 2010 9:01 pm

A-ha! Dyma fach o golau o'm cyfaill, Mr. Gareth King.

The force of the ending 'er is 'let one...(do something)', and while it has no place in the living spoken language, it is quite common in writing at most levels as a polite invitation to do something - a toned-down version of the rather brusque imperative. So, for example, instead of 'gwthiwch'! on a door, you may see 'gwthier'.
.
[King.G pp:116 'Intermediate Welsh: A Grammar and Workbook.]

Dyna'i henghraifft ei hun, cyn i finnau cael trem o'r lyfr hon.

Beth wyt ti'n meddwl?
James Leggett
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 24 Chw 2010 5:03 pm

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 18 Maw 2010 9:29 pm

Darllener y llyfr os mynnir... Mae Mgr an Rìgh iawn - mond wrth weddio baswn i'n defnyddio "gwneler" ac ati.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan Duw » Gwe 19 Maw 2010 12:56 am

Mae'n rhaid dweud fy mod yn casau'r ffurf amhersonol am ei bod mor amherthnasol. Pwy yn y Byd (Cymru/Patagonia), sy'n ei ddefnyddio? Pa bwrpas sydd iddo heddiw?

Mae dogfen o'r enw Cymraeg Clir wedi'i chyhoeddi gan Cen Williams, Prifysgol Bangor, sydd i mi, yn un o'r canllawiau iaith mwya defnyddiol dwi erioed wedi'i ddarllen.

http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/pdf/CymClir.pdf

Pan fyddaf yn gweld arwyddion yn y ffurf amhersonol, dwi'n meddwl "pretentious prig". Mae gwneud y ferf yn weithredol, personol yn gwneud llawer mwy o synnwyr i mi. Beth affach yw'r pwynt o trio bod yn smart-arse mewn iaith sydd yn annealladwy i'r mwyafrif?

Rydym yn trio cael mwy o'r iaith mewn mannau cyhoeddus ac yn ceisio ag annog sefydliadau i arddangos mwy o'u hysbysebion a'u llenyddiaeth yn yr iaith. Beth ddiawl yw'r pwynt os taw'r unig pobol sy'n gallu ei ddeall yw'r 0.001% ohonom sydd â gradd yn y blydi peth (ger llaw, 'stim hyd yn oed Safon O yn y Gymraeg gen i - falle dyna'r broblem).

Cyn i bobl dechrau fy nghyhuddo o fod yn 'bleb', mae'r un newid ieithyddol yn digwydd yn y Saesneg hefyd. Pan oeddwn yn gweithio fel gwyddonydd, roedd disgwyl ysgrifennu papurau yn defnyddio'r ffurfiau amhersonol, goddefol, e.e.

"Four point six milligrams of tetraethylamin were added to..."


Erbyn hyn, mae llawer o gymedrolwyr / golygyddion y cyfnodolion hyn yn mynnu ar Saesneg Plaen - ffurf weithredol, personol.

We added 4.6g of tetraethylamin to...
NEU
I added 4.6g of tetraethylamin to...
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan sian » Gwe 19 Maw 2010 8:48 am

Mae'n rhaid dweud fy mod i'n hoff iawn o'r amhersonol yn ei le. Mae'n gryno ac yn syml.

"Cariwyd John o'r cae. Credir ei fod wedi brifo."

Fe wnes i flogio am y peth fan hyn
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan Duw » Gwe 19 Maw 2010 11:32 am

Dwi'n deall be ti'n dweud, ond dwi ddim yn cytuno gyda phopeth ar dy flog:

Allwn ni ddim anelu at bobl ag oedran darllen o 9 neu 10 trwy’r amser


Dwi'n deall y ffurf amhersonol (i raddau), er dwi ddim yn hoffi ei ddefnyddio oherwydd mae'n swnio'n annaturiol erbyn nawr. Pwrpas iaith i mi yw cyfathrebu. Os ydy'r iaith yn 'rhy anodd' / anystwyth - pwy sy'n mynd i'w ddarllen? Troi i'r Saesneg yw'r peth hawsaf. Sawl cant/mil a gafodd ei wario i gyfieithu'r ddogfen, gyda bron neb yn dewis ei ddarllen? Dwi ddim yn meddwl bod angen defnyddio iaith 9/10 'chwaith - nid yw defnyddio ffurfau arferol cyfredol yn golygu iaith blentynnaidd.

//GOLYGU
Roedd yr edefyn yn cyfeirio at 'arwyddion cyhoeddus'. Fy nadl i yw - os nac ydy'r mwyafrif (sy'n siarad Cymraeg) yn ei ddeall - pa mor gyhoeddus yw e?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan sian » Gwe 19 Maw 2010 1:16 pm

Nabod y gynulleidfa sy'n bwysig, am wn i, a dewis iaith addas ar gyfer yr amgylchiadau.

Swn i'n cytuno bod "Gwthiwch" yn swnio lot yn well na "Gwthier"

Dw i newydd fod mewn angladd a'r ficer yn dweud "Cydymdeimlir â'r teulu yn eu profedigaeth" - oedd yn swnio'n eithriadol o amhersonol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

Postiogan Duw » Gwe 19 Maw 2010 4:45 pm

sian a ddywedodd:Nabod y gynulleidfa sy'n bwysig, am wn i, a dewis iaith addas ar gyfer yr amgylchiadau.


Cytuno.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron