Tudalen 2 o 3

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 5:27 pm
gan Hazel
Duw a ddywedodd: nid yw defnyddio ffurfau arferol cyfredol yn golygu iaith blentynnaidd.


Fe wnaeth hyn i mi ddechrau meddwl ac, nawr, dw i wedi bod yn meddwl drwy'r bore. Dw i'n erioed wedi clywed am hyn. Diddorol iawn. Rŵan, mae gen i gwestiwn, ogwydd. Sut byddai plentyn yn dweud "We were sent home early today" os nad ydy o'n defnydd yr amhersonol? Diolch i chi.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 9:03 pm
gan Seonaidh/Sioni
"Cawson ni'n hanfon adre'n gynnar heddiw", neu rywbeth tebyg, swn i'n awgrymu.

Neu "Maen nhw wedi'n hanfon ni adre'n gynnar heddiw"

Neu "Mae'r ysgol wedi stopio'n gynnar heddiw"

Faint o blant sy'n meddwl am bethau fel "we were sent home..." eniwe? Tybed nad oes na lot o "oddefol" mewn iaith bynnag ymysg plant.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Gwe 19 Maw 2010 9:21 pm
gan Hazel
Dyna pam dw i'n gofyn. Mae'n newydd edrych yn naturiol i mi. "The shop was closed early." "The children were sent out to play." Dw i erioed yn meddwl am unrhyw modd arall. Rhywbeth i mi feddwl amdani. Diolch.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Sad 20 Maw 2010 10:51 am
gan Duw
Hazel a ddywedodd:Dyna pam dw i'n gofyn. Mae'n newydd edrych yn naturiol i mi. "The shop was closed early." "The children were sent out to play." Dw i erioed yn meddwl am unrhyw modd arall. Rhywbeth i mi feddwl amdani. Diolch.


"Ceuon nhw'r siop yn gynnar"

"Cafodd y plant eu hala mas i 'ware"

Yn y rhan fwyaf o gyd-destunnau, mae 'rhywun' yn gwneud rhywbeth, felly dwi'n defnyddio'r ffurf bersonol. Yn amlwg mae'n fwy anodd wrth i'r ddatganiad fynd yn fwy 'abstract', ac efallai bo lle i ddefnyddio'r ffurf amhersonol. Dim ond pregethwyr o'r Gogs a'r hwyr Hywel Teifi Edwards dwi wedi clywed yn siarad yn y ffurf amhersonol.

Dwi'n cofio mamgu a thrigolion f'ardal yn 'Nhw' am bron popeth. Yn hytrach na "dwedir ..." (e.e. "it is said ..."), "mae'n nhw dweud ..." oedd i'w glywed. Roedd iaith bur iawn gan Mamgu a hen bobol y pentre - er byth bydde 'dwedir' a geiriau tebyg yn cael eu defnyddio.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Sad 20 Maw 2010 12:33 pm
gan Hazel
O ddiddorol i mi ydy hyn. Doeddwn i ddim yn gwybod amdani. Er hynny, mae gen i gyfaill a oedd yn dweud wrtha i ddoe bod ei athrawon hi yn digalonni y dyfnydd o'r goddefol ("passive voice" yn gramadeg Americanaid = "amhersonol yn y Gymraeg). Cefais i fy magu i siarad Saesneg... ("ffurfiol" / "perfaith" / "gywir" - beth bynnag) a roedden ni'n defnydd y goddefol.

Diolch i chi am ddweud amdani. Dw i ddim yn siŵr beth rwy'n meddwl amdani ond dim ots yna. Mae'r amserau'n newid bob tro.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Sad 20 Maw 2010 12:52 pm
gan Kez
Duw a ddywedodd:Dim ond pregethwyr o'r Gogs a'r hwyr Hywel Teifi Edwards dwi wedi clywed yn siarad yn y ffurf amhersonol.


Dyw hwnna ddim yn hollol wir odi ddi Duw a bod yn onasd. Odd y terfyniad yn -wyd yn gyffredin iawn yn llafar pobol gyffredin tan yn weddol ddiweddar. Efallai bo fe wedi diflannu i raddau helaeth yn llafar pobol ifanc, ond dyw hi ddim yn ffurf lenyddol yn unig. Fi'n siwr taw ffurfiau llenyddol fu pethach fel dywedir, gweler, gwelesid ac yn y blaen ond nid felly y defnydd o -wyd.


Rwyf wedi clywed pobol yn dweud - geso i 'ngwnnu... - getho i ngwnnu... - fi 'ngwnnwd i.. yn lle cefais fy nghodi yn y cwm ac ti yn clwad pethach fel - adeiladwd lot o dai rown ffor hyn yn y pumdega yn ogystal a 'cas lot o dai eu hadeiladu rown ffor hyn yn y pumdegau'.

Wedi meddwl, ti'n ei glywed e'n amal ar fwletinau newyddion S4C hefyd - ac felly dyna iti 'r amhersonol ar waith; paid a gwed nag yw pobol yn ei ddeall.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Sul 21 Maw 2010 2:16 am
gan Duw
Kez -
Kez a ddywedodd:Rwyf wedi clywed pobol yn dweud - geso i 'ngwnnu... - getho i ngwnnu... - fi 'ngwnnwd i.. yn lle cefais fy nghodi yn y cwm ac ti yn clwad pethach fel - adeiladwd lot o dai rown ffor hyn yn y pumdega yn ogystal a 'cas lot o dai eu hadeiladu rown ffor hyn yn y pumdegau'....
Wedi meddwl, ti'n ei glywed e'n amal ar fwletinau newyddion S4C hefyd - ac felly dyna iti 'r amhersonol ar waith; paid a gwed nag yw pobol yn ei ddeall.


Dom tarw fel ti'n gwbod y malwr cachu affach shwd wyt ti. Ha ha. Geso = Ges i (yn anghywir). Yn yr un ffordd pobol yn gweud gethest ti dy ....[GOLYGU GAN DUW SOBOR!]...? Gethest - nid amhersonol - jest rong. Wylle bo'r bethingalw gwreiddiol yn dod o'r ffurf amhersonol ? Pwy sy ag ots? Sneb yn iwso'r blydi thing rhagor. Pah! Ti'n tynnu'r gwitha mas o fi Kez - mab y cuthrel i ti!

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Sul 21 Maw 2010 10:01 pm
gan huwwaters
Dwi'n defnyddio'r amhersonol, ac mae yn ddefnyddiol!

Byswn yn deud nad yw llawer o bobol yn ei ddefnyddio, nid achos bod y Gymraeg wedi esblygu fel dyle fo neud, ond achos nad oes peth cyfatebol yn y Saesneg. I nifer bellach, aralleiriad o'r Saesneg yw'r Gymraeg, nid esblygiad naturiol o iaith.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Sul 21 Maw 2010 10:15 pm
gan Hazel
Roeddwn i'n darllen Y Cymro ddoe a des o hyd i ddigonedd o amhersonol yna.

Re: Yr amhersonol gorchmynnol

PostioPostiwyd: Llun 22 Maw 2010 11:43 pm
gan Duw
huwwaters a ddywedodd:Dwi'n defnyddio'r amhersonol, ac mae yn ddefnyddiol!

Byswn yn deud nad yw llawer o bobol yn ei ddefnyddio, nid achos bod y Gymraeg wedi esblygu fel dyle fo neud, ond achos nad oes peth cyfatebol yn y Saesneg. I nifer bellach, aralleiriad o'r Saesneg yw'r Gymraeg, nid esblygiad naturiol o iaith.


Dwi'n ei ddefnyddio hefyd, er nid wrth siarad - mae'n dibynnu ar y cyd-destun. Pan yn sgrifennu dogfennau proffesiynol - iawn (er mae dal ishe ffrind i wirio'n iaith!), oherwydd dyna beth maen NHW'n disgwyl. Reit dwi'n cau'm mhen nawr - dwi'n dechre diflasu'n hunan.