Helpu fi i neud...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Helpu fi i neud...

Postiogan y mab afradlon » Sad 03 Ebr 2010 2:40 pm

Ble mae'r "i" i fod mewn brawddegau fel hyn:

Yn fy ngwneud i i weithio / Yn gwneud i fi weithio

Yn eu helpu nhw i ddysgu / Yn helpu iddyn nhw ddysgu

Yn dy orfodi ti i wylio / Yn gorfodi i ti wylio

Oes gwahaniaeth rhyngto'u hystyron, neu oes un yn fwy cywir na'r llall?
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Helpu fi i neud...

Postiogan Azariah » Sad 03 Ebr 2010 3:36 pm

y mab afradlon a ddywedodd:Ble mae'r "i" i fod mewn brawddegau fel hyn:

Yn fy ngwneud i i weithio / Yn gwneud i fi weithio

Yn eu helpu nhw i ddysgu / Yn helpu iddyn nhw ddysgu

Yn dy orfodi ti i wylio / Yn gorfodi i ti wylio

Oes gwahaniaeth rhyngto'u hystyron, neu oes un yn fwy cywir na'r llall?


yn gwneud i fi weithio.
yn eu helpu nhw i ddysgu.
yn dy orfodi di i wylio.
Azariah
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 7:13 pm

Re: Helpu fi i neud...

Postiogan y mab afradlon » Sad 03 Ebr 2010 6:54 pm

Diolch Azariah, ond nawwr ga'i ofyn pam?

Un frawddeg dylen i wedi cynnwys oedd:

Yn gwneud y byd i weithio / yn gwneud i'r byd weithio
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Helpu fi i neud...

Postiogan xxglennxx » Sad 03 Ebr 2010 11:58 pm

y mab afradlon a ddywedodd:He's making me work - Mae e'n gwneud imi weithio / Mae e'n fy ngwneud (i) i weithio.

She's helping them to learn - Mae hi'n eu helpu (nhw) i ddysgu.

They're forcing you to watch TV - Maen nhw'n dy orfodi (di) i wylio'r teledu.

It makes the world work - Mae'n wneud i'r byd weithio.


y mab afradlon a ddywedodd:Oes gwahaniaeth rhyngto'u hystyron, neu oes un yn fwy cywir na'r llall?


Dwi ddim yn meddwl bod 'na lawer o wahaniaeth rhwng eu hystyron - yn ôl pob dim, mae bob un ffordd yn golygu'r un peth. Gyda "Mae hi'n eu helpu (nhw) i ddysgu," mae'n, "She is their helping them to learn" yn llythrennol, felly dilyna'r un ffordd i greu brawddegau, h.y.,

* My (verb + nasal mutation) me - fy (berf a threiglad trwynol) i
* Your (verb) you - Eich (berf) chi
* Your (verb + soft mutation) you - Dy (berf a threiglad meddal) di
* His (verb + soft mutation) his - Ei (berf a threiglad meddal) e
* Her (verb + aspirate mutation (+h in front of vowels)) her - Ei (berf a threiglad llaes (=h o flaen llafariaid)) hi
* Our (verb +h in front of vowels) - Ein (berf a h o flaen llafariaid) ni
* Their (verb +h in front of vowels) - Eu (berf a h o flaen llafariaid) nhw

Glenn
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Helpu fi i neud...

Postiogan Kez » Sul 04 Ebr 2010 12:18 pm

Azariah a ddywedodd:
yn gwneud i fi weithio.
yn eu helpu nhw i ddysgu.
yn dy orfodi di i wylio.


y mab afradlon a ddywedodd:Diolch Azariah, ond nawwr ga'i ofyn pam?

Un frawddeg dylen i wedi cynnwys oedd:

Yn gwneud y byd i weithio / yn gwneud i'r byd weithio


Mae a wnelo'r rheswm a'r arddodiad neu ddiffyg arddodiad sy'n dilyn y berfenw. Yn Gymraeg rydym yn dweud pethau fel gwrando ar rywun, dweud wrth rywun, holi rhywun etc ac yn yr achos yma:

gwneud i rywun wneud rhywbeth - to make someone do something
gorfodi rhywun i wneud rhywbeth - to make someone do something
helpu rhywun i wneud rhywbeth - to help someone do something
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron